Fe gafodd y band Cwtsh ei ffurfio yn dilyn sgwrs rhwng dau gerddor mewn gig Mark Cyrff, ac maen nhw newydd gyhoeddi albwm…

Tra bo gitarydd a drymwraig y band Cwtsh yn hen stejars ar y Sîn Roc Gymraeg, mae’r ddynes sy’n canu yn eitha’ newydd i’r holl beth.

Aeth Alys Llywelyn-Hughes i’r coleg yn hwyr a threulio blynyddoedd yn sgriptio Pobol y Cwm a rhaglenni a chartŵns i blant.