Mae dyfeisiwr gêm fwrdd poblogaidd yn HYDERUS? y bydd y fersiwn Gymraeg yn llwyddiant.

Ers tair blynedd mae Ceri Price, o Lanelli, a’i gariad Natalie Podd, o Lundain, wedi bod yn cynhyrchu fersiwn Saesneg o’r gêm CONFIDENT?

Ers gwerthu allan yn ystod y flwyddyn gyntaf o fasnachu mae’r gêm boblogaidd wedi mynd o nerth i nerth, a bellach ar gael i’w brynu mewn siopau mawr fel John Lewis ac oddi ar Amazon.

Ar ôl casglu barn y cyhoedd am greu fersiwn Gymraeg o’r gêm fwrdd y llynedd mae’r cwmni wedi cadarnhau y bydd y gêm HYDERUS? ar gael i’w brynu cyn diwedd y flwyddyn.

“Mae’n anodd rhagweld yn union pa mor llwyddiannus fydd y gêm Gymraeg wrth gwrs, ond mae e werth y risg oherwydd gallai fod yn wych i’r iaith Gymraeg,” meddai Ceri Price, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Strade.

Amrediad

Mae’r gêm i dri neu fwy o bobol yn gofyn i gystadleuwyr ateb cyfres o gwestiynau drwy ddyfalu ateb ar ffurf amrediad.

Mae cystadleuwyr yn ennill pwyntiau yn dibynnu pa mor agos ydyn nhw at yr ateb cywir, ac mae modd amrywio’r gêm ychydig drwy ddwyn a dyblu pwyntiau chwaraewyr eraill.

Eglurodd Ceri Price bod ef a’i gariad wedi cael y syniad am y gêm fwrdd tra’n teithio yn Ne America yn 2016.

“Roedden ni yn yr Amazon ar y pryd, a digwydd gofyn i fy nghariad beth oedd poblogaeth Brasil,” meddai wrth golwg360.

“Dyfalodd Natalie amrediad rhwng hyn a hyn ac fe arweiniodd hyn at fwy o gwestiynau ac roeddem ni’n dau’n ceisio dyfalu’r atebion – dyma yn ei hanfod gwnaeth i ni feddwl, oes gap yn y farchnad?

“Pan ddaethom nôl adre flwyddyn yn ddiweddarach penderfynom greu prototeipiau, arbrofi gyda theulu a ffrindiau ac roedd pobol yn ei hoffi.”

Tra’n datblygu’r gêm roedd Ceri a Natalie yn gweithio fel ymgynghorwyr llawn amser yn Llundain, ond yn dilyn llwyddiant diweddar mae Ceri wedi rhoi ei holl amser i ddatblygu’r gêm fwrdd.

Hyderus
Bydd y fersiwn Gymraeg ar werth mewn siopau lleol ac ar lein fis Medi

‘Pam lai creu fersiwn Cymraeg?’

“Ar ôl lansio yn yr Unol Daleithiau’r llynedd ac edrych i gael y gêm i wledydd eraill sylweddolom ein bod ni wedi cael shwt gymaint o gefnogaeth gan bobol yng Nghymru oedd yn mwynhau’r gêm Saesneg.

“O’n i’n meddwl, pam lai creu fersiwn Cymraeg?”

Er mwyn mesur pa mor boblogaidd fyddai fersiwn Gymraeg o’r gêm, fe gynhaliodd y cwmni arolwg yn gofyn i bobol am eu barn am gemau Cymraeg – o’u harferion chwarae eu hunain, eu hoff gemau yn Gymraeg neu Saesneg, a’u parodrwydd i brynu gem newydd.

Yn ôl y canfyddiadau, byddai 87% yn bendant neu’n debygol o brynu gêm fwrdd Gymraeg ac 80% yn debygol o brynu HYDERUS?

“Rhoddodd hyn hwb i ni fynd ati a defnyddio’r awgrymiadau i greu Fersiwn Gymraeg o’r gêm,” ychwanegodd Ceri Price.

“Ry’ ni wrthi yn llunio’r cwestiynau a chreu’r fersiwn Gymraeg ar hyn o bryd, ond nid penderfyniad busnes yn unig oedd hyn oherwydd dw i wir yn teimlo gallai hyn fod yn wych i’r iaith Gymraeg.”

Yn dilyn yr adborth mae’r cwmni yn bwriadu cynnwys cyfieithiadau Saesneg ar gyfer dysgwyr Cymraeg a theuluoedd dwyieithog.

Wrth i’r gêm gael ei ddatblygu mae’r cwmni hefyd yn annog pobol i awgrymu cwestiynau ar gyfer y fersiwn newydd gyda’r cyfle i bobol ac ysgolion ennill copi o’r gêm pe bai eu cwestiynau yn cael eu cynnwys.

Y gobaith yw y bydd HYDERUS? ar werth mewn siopau lleol ac ar lein fis Medi.

Hyderus?

Dyfeisiwr gêm eisiau casglu barn y cyhoedd am gemau bwrdd Cymraeg

Ceri Price, cyfarwyddwr cwmni Confident Games, yn awyddus i drosi’r gêm CONFIDENT? i’r Gymraeg