Mae’r Dreigiau mewn trafodaethau i symud gemau cartref i Stadiwm y Principality, gan ddechrau yn erbyn Ulster ddydd Sadwrn (Mawrth 13).
Mae pryderon am arwyneb Rodney Parade gyda gemau rygbi a phêl-droed wedi eu gohirio yno am y tro.
Mae tîm pêl-droed Casnewydd eisoes wedi symud dwy gêm yn League Two i Stadiwm Dinas Caerdydd y mis hwn.
Stadiwm Principality yw cartref Undeb Rygbi Cymru, sy’n berchen ar y Dreigiau.
Mae gan y Dreigiau dair gêm Pro14 gartref yn erbyn Glasgow, Ulster a Chaeredin y mis hwn.
Byddan nhw hefyd yn herio Northampton Saints yn y Challenge Cup ar benwythnos cyntaf mis Ebrill.
Mae Stadiwm Principality, maes rygbi cenedlaethol Cymru, yn ôl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon ar ôl cael ei droi’n Ysbyty Calon y Ddraig fel rhan o’r frwydr yn erbyn pandemig y coronafeirws.