Mae ymosodwr Cymru Tyler Roberts yn gobeithio y bydd perfformiadau da i Leeds United yn cryfhau ei gais i sicrhau lle yng ngharfan Ewro 2020 Cymru.

Mae Roberts wedi dechrau ym mhedair gêm olaf Leeds yn yr Uwch Gynghrair ac yn dweud ei fod yn “dysgu gyda phob cyfle.”

Mae gan y gŵr 22 oed 11 o gapiau i Gymru ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2018.

“Dw i wedi dechrau ychydig o gemau nawr ac mae hynny yn mynd i’m helpu,” meddai Roberts wrth BBC Radio Leeds.

“Ond rwy’n canolbwyntio ar fy mherfformiadau i Leeds a cheisio sgorio mwy o goliau neu effeithio ar gemau gan mai dyna’r unig beth sy’n mynd i’m gwthio i mewn i’r garfan Ewro 2020.”

Bydd Cymru’n ymddangos yn eu hail Bencampwriaeth Ewropeaidd yn olynol yr haf hwn, gyda’r twrnament yn cael ei ohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig.

Cyn hynny mae Cymru’n dechrau eu hymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd i ffwrdd i Wlad Belg ar Fawrth 24.

Gyda Robert Page wrth y llyw oherwydd absenoldeb Ryan Giggs, bydd Cymru yn herio Mecsico mewn gem gyfeillgar ar Fawrth 27, cyn i’r Weriniaeth Tsiec ymweld â Chaerdydd ar  Fawrth 30.

“Gobeithio y gallaf fod yn rhan o’r garfan eto,” ychwanegodd Roberts.

“Yn amlwg dw i wedi chwarae ychydig funudau’r tro diwethaf, ond dw i jyst yn ceisio mynd i ffwrdd gyda nhw a gwneud yn siŵr mod i’n rhan o’r Ewros yn yr haf hefyd.”

Dywed Roberts y bydd chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair yn helpu ei gais i fod yn rhan o’r garfan yn yr haf.

“Does dim llawer o chwaraewyr yn chwarae’r Uwch Gynghrair, ond mae gennym garfan ifanc iawn, rwy’n meddwl, hogiau 23 i 24 oed yn bennaf sy’n bendant yn ddigon da i chwarae yn yr Uwch Gynghrair,” meddai.

“Felly mae’n bendant yn dîm mawr ar gyfer y dyfodol yn fy marn i.”