Pan o’n i’n grwt yn y 1970au roedd yna densiwn rhwng rygbi a phêl-droed. Dyma oes aur y bêl hirgron, roedd Cymru yn bencampwyr y Pum Gwlad ac yn enillwyr y Goron Driphlyg. Yn ne Cymru o leiaf, rygbi oedd y gêm a gwae neb a wadai hynny. Pan oedd fy ffrind Hywel Evans o Donteg moen chware pêl-droed ar bnawn Sadwrn, a hynny ar ôl ein gêm rygbi arferol, dyma’r athro chwaraeon yn troi arno. ‘Un dyn, un bêl, un gêm,’ meddai. A hynny a fu.

Ond daeth tro ar fyd ac mae pêl-droed, dybiwn i, bellach wedi disodli rygbi fel ein gêm genedlaethol. Wrth gwrs mae’r ddwy gêm yn tynnu cymunedau ledled Cymru at ei gilydd. Ond mae ‘na rywbeth unigryw am y bêl gron rhywffordd, sy’n cynnig apêl byd eang iddi, ac yn sgil hynny, grym aruthrol.

Efallai mae sgêl y gêm, o dimau pentref i galacticos Real Madrid, sy’n golygu ei bod yn treiddio, os nad at galon, yn sicr i ymwybyddiaeth bob un ohonom. Pan gyrhaeddodd tîm Cymru rownd gyn-derfynol yr Ewros yn 2016 daeth genedl gyfan at ei gilydd i ddathlu. Gwir pob gair arwyddair slic y Gymdeithas Bêl-droed, ‘Gyda’n gilydd yn gryfach.’ Bu pêl-droed yn boblogaidd yng Nghymru ers degawadau ond dim o reidrwydd pêl-droed Cymreig.

Yn ôl sylfaenydd y podlediad ‘Desolation Radio,’ Dan Evans, mae cefnogwyr Cymru oddi cartref yn lysgenhadon ‘gwladwriaeth annibynnol ar daith.’ Maen nhw’n trefnu bob dim eu hunain, yn annibynnol mewn agwedd a gweithred ac wedi mabwysiadu ffasiwn a diwylliant eu hunain. Yn ôl Dan maen nhw’n dod ’nôl o’u teithiau tramor yn cwestiynnu Cymru fodern yn wyneb yr hyn y maen nhw wedi ei brofi oddi cartref.

Mae Wal Goch’ Ewro 2016, fel yr adnabwyd cefnogwyr Cymru, wedi bywiogi ac atgyfnerthu diwylliant ‘ffans’ yng Nghymru, diwylliant oedd cyn hyn yn hollol ymylol. Erbyn heddiw gellid ei ddisgrifio fel tueddiad mwy hunan ymwybodol. Mae’n sicr yn naturiol ddwyieithog a chynhwysfawr. Ond yw e’n gallu mynd ymhellach? Ydy’r grym yma yn gallu bod yn rhywbeth  y tu hwnt i gefnogaeth gêm bêl-droed? Oes modd ei harnesi’r er lles cymdeithasol ehangach? Mae mudiad cymunedol newydd Expor Wal Goch yn meddwl felly.

Rwy’n cofio nôl yn y 1980au cydweithiwr i fi yn y BBC yn dweud, ‘Y broblem gyda chi’r Cymry yw, does dim crysau T deche ‘da chi.’ Dim ond yn ddiweddar rwy wedi deall beth oedd Jane yn trial dweud. Roedd y crys T bondigrybwyll yn symbol iddi hi o’n diffyg hunan-hyder diwylliannol, a’n dymuniad i berchen ein dyfodol. Erbyn hyn wrth gwrs mae gyda ni gwmnïau Shwldimwl a Cowbois, yn Llanboidy a’r Bala, yn creu dyluniadau gwreiddiol a Chymreig – nifer ohonyn nhw yn gysylltiedig â phêl-droed. Mae Spirit of 58 yn denfyddio 1958, yr unig dro i Gymru gyrraedd rowndiau terfynnol Cwpan y Byd, fel ysbrydoliaeth i bob math o gynnyrch.

Yn ddiweddar ryn ni wedi gweld cynnydd mewn fanzines, sydd wedi eu hysgrifennu a’u cynhyrchu gan gefnogwyr, ar gyfer clybiau yn ogystal a’n tîm cenedlaethol. Mae ‘zines’ yn dyddio nôl i gyfnod pync yn niwedd y 70au ac yn rhannol ro’n nhw’n ymateb i’r ffordd yr oedd y gêm yn cael ei droi yn fusnes a’r cefnogwyr yn cael eu hanwybyddu. Ond daeth tro ar fyd. Mae adfywiad wedi bod ar y terasau gyda galw cynyddol am ddemocrateiddio’r gêm. Bellach mae llais y ffans i’w glywed mewn fanzines ynghyd â phodlediadau fel Podcast Pêl-droed. Yn sgîl Ewro 2016 cafwyd hefyd toreth o lyfrau, gwefannau a blogs, pob un yn trafod y gêm drwy lygaid y cefnogwyr. Bellach ryn ni’r ffans yn ysgrifennu ein hanes ein hunain.

Fel prawf o bwysigrwydd ein gêm genedlaethol o’r diwedd mae son am godi amgueddfa deilwng iddi yn ei chartref ysbrydol, Wrecsam. Yn y dre hon sefydlwyd y Gymdeithas Bêl-droed ym 1876. Ac mewn adroddiad diweddar gan y Cyngor Prydeinig ar ddiplomyddiaeth chwaraeon, soniwyd am rôl allweddol pêl-droed fel rhan o unrhyw bolisi diplomyddol i Gymru.

Yn niwedd 2019 cafwyd arddangosfa o grysau go iawn chwaraewyr tîm Cymru yn amgueddfa Sain Ffagan. Dyna i chi grys Len Allchurch yn y 1950au ochr yn ochr â chrys capten tîm presennol y merched, Sophie Ingle. Hefyd yn 2019, a gyda chymorth yr actor a’r ymgyrchydd gwleidyddol Michael Sheen, cynhaliwyd Cwpan Pêl-droed y Byd i bobl ddigartref. Hyn oll ar ôl i’r brifddinas gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017.

Yn ei rhagarweiniad i adroddiad diweddar y Cyngor Prydeinig, ‘Tuag at Strategaeth Diplomyddiaeth Chwaraeon i Gymru,’ ysgrifennodd Laura McAllister,

Mae gan chwaraeon rôl allweddol nid yn unig wrth fynegi pwy ydyn ni, ond hefyd o ran ein gwerthoedd gwleidyddol fel partner masnachu sy’n agored a hawdd ymwneud â ni, dinasyddion byd-eang cadarn a phobl sy’n gynhwysol a chroesawgar.

Mae hyn oll yn ategu thema ffilm Jonny Owen am yr Ewros yn 2016, Don’t Take Me Home. Roedd e’n gweld bod pêl-droed Cymru, a’r cefnogwyr yn arbennig, yn rhoi Cymru ar y map.

Ydy hi’n realistig i feddwl bod modd harneisi’r Wal Goch, ei ynni positif a blaengar at ddibenion cymdeithasol a gwleidyddol ehangach? Mae Expor Wal Goch yn credu ei bod yn bosib gwneud hynny a gan ei bod hi’n flwyddyn yr Ewros unwaith yn rhagor, a Chymru wrth gwrs yn rhan ohonynt, mae’n amserol i ni gynnal yr Expo gyntaf eleni.

Mae nifer ohonom wedi methu’r naw deg munud o wylio gêm bêl-droed ‘yn y cnawd’ fel petai. Ond ydyn ni hefyd, drwy’r misoedd hir ac unig yma, hefyd wedi dod i werthfawrogi cyfranid ungryw y gêm i’n bywydau a’n cymunedau? Yn sicr. Oes modd i ni ad-feddiannu’r gêm, ei democrateiddio a herio’r ffordd ryn ni’r ffans wedi cael ein troi yn gwsmeriaid unffurf, mud?  O bosib. Ac yw’r posibiliadau hyn, a’n gallu i newid pethau er gwell, yn gorfod cael eu cyfyngu i bêl-droed yn unig? Na! Wedi’r cwbl onid adlewyrchu elfennau economi a diwylliant y gymdeithas ehangach y mae’r gêm?

Mae cyrhaeddiad daearyddol a chymdeithasol pêl-droed yn cynnig cyfrwng i ni adeiladu democratiaeth ddiwylliannol go iawn, a thrwy hynny taclo pob math o bethau – anghydraddoldeb, anghyfartaledd a diffyg cynrychiolaeth, yn wir unrhywbeth sydd werth ymladd amdani. Mae yna esiamplau lu o sut y mae grym cefnogwyr wedi llwyddo i gyflawni newidiadau pell gyrhaeddiol. Mae gan y Football Supporters’ Association hanner miliwn o aelodau ac maen nhw’n ymgyrchu i ddiwygio rheoleiddio’r gêm yn ogystal â sicrhau prisiau tocynnau teg. Ar lefel lleol mae clybiau Cymru wedi arwain y ffordd o ran perchnogaeth: pan oedd y model busnes preifat wedi methu, pwy ddaeth i’r adwy i achub eu clybiau, yn Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd? Yr awdurdodau pêl-droed? Na, ymddiriedolaethau’r cefnogwyr.

Mae’r pandemig wedi amlygu sawl un o anghyfartaleddau hir-dymor Cymru a’r Deyrnas Unedig, boed rheiny’n ariannol neu o ran dosbarth neu hil.  Mae hefyd wedi dangos pa mor fregus y mae model ariannol y gêm ei hun gyda chlybiau yn methu talu staff a rhai yn mynd i’r wal.

Ond dyw pethau ddim yn ddu i gyd. Dyfarnwyd gwobr yng nghystadleuaeth Perosnoliaeth Chwaraeon yn flwyddyn 2019 i Delwyn Derrick, rheolwr Bellevue FC yn Wrecsam, tîm ar gyfer ceiswyr lloches a mudwyr. Cyn y Covid roedd mwy o chwaraewyr nag erioed wedi eu cofresti gan y Gymdeithas Bêl-droed. Mae ei strategaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd tyfu gêm y merched. Ar y llwyfan rhyngwladol hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo, mae elusen y cefnogwyr, Gôl Cymru, yn dal i godi miloedd o bunnau er lles plant ar draws y byd yn ogystal ag yma yng Nghymru.

Yn union fel yr argraffwyr crysau T yna, mae sgwenwyr y fanzines a chynhyrchwyr y podlediadau am barhau i adrodd ein straeon ein hunain. Bydd Expor Wal Goch yn cynnig llwyfan i ledaenu’r gwaith da yma i bob cornel o Gymru. Y gobaith yw adeiladu cymuned i’r sawl sydd am ddefnyddio pêl-droed er gwell. Bydd yn helpu awdurdodau’r gêm i ymwneud gyda chefnogwyr mewn ffordd gyfartal, yn cynnig arweiniad ar sut i berchnogi eich clwb, yn ceisio ehangu gêm y merched a llawr mwy. Mae’n anhebyg y cawn ni gyfarfod wyneb yn wyneb yn fuan ond gobeithiwn y bydd modd cynnal digwydiadad rhithiol, tamaid i aros pryd fel petai, cyn bo hir.

Ethos yr Expo yw ‘Gan y cefnogwyr, ar ran y cefnogwyr.’ Y nhw fydd yn dylunio a churadu’r digwyddiad. Bydd yn cynnig gofod i ffans ddod at ei gilydd drwy drafodaethau, darlithiau a gweithdai, ffilm a chelfyddyd. Bydd yna gyfnewid syniadau a chyfle i werthu nwyddau a gwasanaethau. Bydd gŵyl ymylol gyda digwyddiadau cymdeithasol, cerddoriaeth ac wrth gwrs ychydig o bêl-droed go iawn. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig gadewch i ni ddathlu llwyddiant ein tîm pêl-droed cenedlaethol, lle bynnag cynhelir yr Ewros. Ond hefyd dathlwn ni gryfder a photensial y Wal Goch i newid Cymru – er gwell.

 

Dilynwch Expo’r Wal Goch, ar Drydar @ExpoWalGoch