Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi crebachu eto ym mis Ionawr yn sgil effaith cyfyngiadau’r clo.
Roedd cynnyrch domestig gros (GDP) wedi gostwng 2.9% ym mis Ionawr, ar ôl gweld cynnydd o 1.2% rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Ym mis Ionawr roedd GDP yn parhau 9% yn is na’r lefelau cyn y pandemig.
Serch hynny mae’r gostyngiad o 2.9% yn well na’r 4.9% yr oedd economegwyr wedi’i ddarogan, gyda busnesau yn addasu’n well i’r cyfyngiadau.
Y sector gwasanaethau gafodd ei heffeithio fwyaf gan grebachu 3.5% ym mis Ionawr wrth i nifer o gwmnïau lletygarwch a hamdden gau yn sgil y cyfyngiadau. Mae’r sector bellach 10.2% yn llai nag oedd ym mis Chwefror 2020.
Roedd y sector gweithgynhyrchu hefyd wedi gostwng 1.5% ym mis Ionawr eleni, tra bod y diwydiant adeiladu wedi tyfu 0.9% yn ystod y mis.