Bydd cannoedd o weithwyr ar drennau Trafnidiaeth Cymru yn gwisgo camerâu ar eu cyrff, er mwyn ffilmio “pobl sy’n ymddwyn yn dreisgar a sarhaus tuag at staff”.

Caiff mwy na 250 o gamerâu eu cyflwyno ar draws 15 lleoliad allweddol o amgylch y rhwydwaith, gan gynnwys Caerdydd, Caer, Abertawe  a Phontypridd.

Bydd y camerâu cofnodi tystiolaeth yn erbyn pobol sy’n cyflawni troseddau ar y rheilffyrdd, yn ôl Trafnidiaeth Cymru

Mae’r hyfforddiant o ran sut i ddefnyddio’r camerâu wedi dechrau a bydd y camerâu yn dod yn weithredol yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Er bod y rheilffordd eisoes yn amgylchedd diogel iawn ar gyfer teithio, rydym am roi’r tawelwch meddwl ychwanegol i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr mai eu diogelwch nhw sy’n dod gyntaf,” meddai Rheolwr Gwelliant Parhaus Trafnidiaeth Cymru, Chris Watkins.

“Profwyd bod camerâu corff yn ffordd hynod effeithiol o leihau cyfraddau troseddu am eu bod yn rhwystr i droseddwyr ac am fod y dystiolaeth a gasglwn o’r camerâu cystal, fel ei bod yn aml yn allweddol i helpu’r heddlu i sicrhau euogfarnau llwyddiannus…

“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i weithio’n agosach gyda’n partneriaid, sef yr Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig, i ddatblygu rheilffyrdd mwy diogel i bawb.”

“Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol”

Dywedodd Uwch-arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig, Andy Morgan: “Diogelwch teithwyr a’n cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu.

“Rydym yn llwyr gefnogi cyflwyno camerâu corff ar gyfer staff rheng flaen Trafnidiaeth Cymru – rydym yn gwybod o brofiad bod fideo wedi’i wisgo ar y corff yn ddarn gwych o offer sy’n ein helpu i sicrhau euogfarnau yn erbyn pobl sy’n ymddwyn yn dreisgar a sarhaus tuag at staff.

“Rydym yn gobeithio y bydd y camerâu yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn rhoi tawelwch meddwl i staff y rheilffyrdd yn ogystal â theithwyr.

“Yn ffodus, mae digwyddiadau o’r fath yn reit anghyffredin, ond os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon wrth deithio, gallant anfon neges destun atom ar 61016.”