Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o roi “gobaith ffals” i fusnesau.
Bydd y rhan fwyaf o fanwerthu nad yw’n hanfodol yn aros ar gau yng Nghymru tan Ebrill 12, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Daw’r cyhoeddiad yn ergyd i rannau o’r diwydiant oedd yn disgwyl dyddiad ailagor cynharach.
Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru’n symud i gyfnod “aros yn lleol” o ddydd Sadwrn (Mawrth 13) am bythefnos cyn llacio rheolau teithio ymhellach mewn pryd ar gyfer y Pasg, gyda llety gwyliau hunangynhwysol i’w ailagor o Fawrth 27.
Ddydd Gwener (Mawrth 12), dywedodd Mark Drakeford y byddai manwerthu nad yw’n hanfodol yn dechrau ailagor o Fawrth 22.
Ni fydd dychwelyd llawn yn digwydd tan Ebrill 12, gyda busnesau yn derbyn £150 miliwn o gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Radio Wales: “Dair wythnos yn ôl dywedais y byddem yn gallu dechrau ailagor manwerthu nad yw’n hanfodol a byddwn yn gwneud hynny ar Fawrth 22, oherwydd bydd archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n cael ailagor nawr yn gallu gwerthu eu holl eitemau, boed yn hanfodol neu os nad yw’n hanfodol.
“Fyddan nhw ddim yn gallu gwneud hynny yn Lloegr.”
“Gobaith ffals”
Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru: “Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o rybudd i’r busnesau hynny sy’n cael agor ddydd Llun tra’n rhoi gobaith ffals i’r rhai nad ydynt yn cael agor.
“Nawr mae angen ymgynghoriad ledled Cymru gyda’r sector twristiaeth i weld a yw’n ymarferol iddynt agor i gwsmeriaid sy’n hanu o Gymru dros y Pasg yn unig.”
“Tro-pedol”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud tro pedol ar ailagor siopau.
Dywedodd Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: “Bydd tro pedol Llafur ar agor manwerthu nad yw’n hanfodol ar fyr rybudd yn ergyd drom i lawer o fusnesau, ac mae’r penderfyniad i beidio cysoni â Lloegr yn yr ardal honno yn dangos y gallem fod wedi mabwysiadu trywydd tebyg wythnosau’n ôl.
“Bydd y gwrthod parhaus gan weinidogion Llafur i wneud hynny ond yn cynyddu rhwystredigaeth yn y sectorau sy’n cael eu taro waethaf gan y pandemig a bydd yn peryglu mwy o swyddi yng Nghymru.”