Byddai gweithio gydag ysgolion yn flaenoriaeth i ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, ac mae hi’n awyddus i ganolbwyntio ar “atal” troseddau hefyd.
Mae Pat Astbury yn hanu o Gaernarfon ac yn siarad Cymraeg, ond mae hi’n byw yn Rhuthun erbyn hyn, ac roedd hi’n arfer bod yn gynghorydd a Maer yn y dref.
Cefndir ym maes addysg sydd ganddi, a byddai’n awyddus i weithio gydag ysgolion ar draws y gogledd pe bai’n cael ei hethol.
Ynghyd â gweithio ym maes addysg, roedd hi’n aelod o Fwrdd Llysoedd Gogledd Cymru, ac mae hi’n cadeirio’r panel ers tua thair blynedd.
Ann Griffith sydd wedi’i dewis i olynu Arfon Jones fel ymgeisydd dros Blaid Cymru, ac mae ganddi bron i bedwar deg o flynyddoedd o brofiad fel gweithiwr cymdeithasol, ac wedi gweithio ym mhob maes – gydag oedolion bregus, gyda phobol gyda phroblemau iechyd meddwl dwys.
Y Cynghorydd Andy Dunbobbin yw ymgeisydd y Blaid Lafur, ac maen Bencampwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint.
Ei flaenoriaethau ef fyddai sicrhau bod yr heddlu yn weladwy yn ein cymunedau, a sicrhau bod ganddynt fwy o bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar Fai 6 2021.
“Y wybodaeth, y profiad, a’r diddordeb”
Mae Pat Astbury wedi dweud wrth golwg360 fod ganddi’r “wybodaeth, mae gennyf i’r profiad – dw i’n gwybod beth ydy’r rôl”.
“Dw i’n ddwyieithog, mae gennyf i deulu yng Nghaernarfon o hyd, a dw i’n adnabod yr ardaloedd o gwmpas Sir y Fflint.
“Mae gennyf i’r wybodaeth a’r diddordeb i wneud y swydd.”
Nid yw Cymru erioed wedi ethol menyw yn Gomisiynydd, ers dechrau ethol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn 2012.
Wrth ystyried beth fyddai’n golygu iddi newid y patrwm hwnnw, dywedodd Pat Astbury:
“Fyswn i’n falch ofnadwy i fod yn Gomisiynydd dros bawb yng ngogledd Cymru – falch ofnadwy.
“Fyswn i’n ddiolchgar i bobol sydd wedi cefnogi fi yn yr etholiad, byswn i’n gweithio 100% fel ydw i wedi gwneud efo bob dim dw i’n ei wneud.
“Mae gennyf i brofiad… fi ydi’r ‘Champion’ ar banel bwrdd Caethwasiaeth Fodern ac Ecsbloetiaeth Rhywiol yn erbyn Plant, felly dw i’n gwybod sut mae popeth fel yna yn gweithio, felly hoffwn barhau efo hynny,” esbonia.
“A fyswn i’n hit the ground running, o’r profiad dw i wedi’i gael dros y blynyddoedd, dyna fyswn i’n ei ddweud.”
Blaenoriaethu “atal” troseddau
Pwysleisia Pat Astbury mai ei blaenoriaeth fyddai gwneud mwy o waith yn “atal” troseddau, a gweithio gyda mwy o ysgolion.
“Fyswn i’n gweithio mwy efo ysgolion dros yr ardal i gyd – ysgolion bach, ysgolion mawr, mae pob un ohonyn nhw’n bwysig. Mae pob un plentyn yn bwysig, lle bynnag maen nhw.”
Mae’r ymgeisydd Ceidwadol yn dweud y byddai’n sicrhau bod gogledd Cymru yn cael cyfran deg o weision heddlu newydd, gan gyfeirio at Operation Uplift – cynllun i recriwtio 20,000 o heddweision newydd dros Gymru a Lloegr.
Hyd yn hyn, “mae yna ychydig o dan 7,000 wedi cael eu recriwtio. Fedrwch chi ddim cael yr 20,000 ar un waith, fysa hynny ddim yn gweithio, ond fyswn i’n sicrhau bod gogledd Cymru yn cael cyfran deg.”
“Peth arall sy’n bwysig i fi ydi bwlio ar-lein, achos dw i’n adnabod pobol sy’n cael amser ofnadwy efo hynny.
“Mae hynny yn un o’r blaenoriaethau.
“A gweithio efo’r wasg i gael y neges allan, achos mae pobol yn darllen papurau neu maen nhw’n darllen newyddion ar-lein. Dw i wastad wedi dweud – ‘creu perthynas dda â’r wasg’ a rhoi amser i bawb.”