Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi y bydd holl ddisgyblion Cymru yn dychwelyd i’r dosbarth ymhen mis.
O ddydd Llun (Mawrth 15) ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion ysgol uwchradd sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd i’r dosbarth.
Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â dysgwyr blynyddoedd 10 a 12 yn eu holau a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau.
Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall.
Wrth siarad yng nghynhadledd i’r Wasg Llywodraeth Cymru, dywedodd Mark Drakeford: “Bydd pob disgybl yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg, ar Ebrill 12.”
Beth arall sy’n newid?
O ddydd Sadwrn 13 Mawrth ymlaen bydd y neges ‘aros gartref’ yn newid i ‘aros yn lleol’.
Bydd uchafswm o bedwar o bobl o ddwy aelwyd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau gan ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon lleol.
Bydd hyd at bedwar o bobl o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored yn eu hardal leol, gan gynnwys mewn gerddi.
Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored ailagor, gan gynnwys cyrtiau tenis, cyrsiau golff a lawntiau bowlio.
A bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn cael ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig yn unig, gyda chaniatâd y cartref gofal.
O ddydd Llun 15 Mawrth ymlaen bydd pob disgybl cynradd a disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn cael dychwelyd i’r ysgol.
Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn cael ailagor ar gyfer apwyntiadau, ond dim ond er mwyn torri gwallt.
O ddydd Llun 22 Mawrth ymlaen bydd camau yn cael eu cymryd i ailagor busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, gyda chanolfannau garddio’n ailagor hefyd.
Bydd y cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi er mwyn caniatáu i bobl deithio ar draws Cymru.
Mae disgwyl i lety gwyliau hunangynhwysol ailagor ar gyfer un aelwyd, tra bydd gweithgareddau wedi’u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant hefyd yn cael ailddechrau.
Ar ben hynny bydd llyfrgelloedd yn ailagor.
Angen i bobol “barhau i fod yn wyliadwrus”
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud fod angen i bobol “barhau i fod yn wyliadwrus” gan nad yw’r coronafeirws wedi diflannu.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru godi’r cyfyngiad ‘aros gartref’ yng Nghymru, a gofyn i bobol ‘aros yn lleol’ yn lle.
“Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau i ostwng ac mae llai o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac mae’n rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth,” meddai
“Ond mae ein cyngor yn glir iawn yw nad yw’r feirws wedi diflannu – yr amrywiolyn heintus o Gaint yw’r straen amlycaf yng Nghymru, a phan fyddwn ni’n dechrau cymysgu eto, bydd y feirws yn dod yn ei ôl hefyd.
“Er y byddwn ni’n croesawu mwy o ryddid i symud o gwmpas yn lleol ac i gwrdd â theulu a ffrindiau, mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus.”
£150 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau Cymru
Mae Mark Drakeford hefyd wedi cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru yn neilltuo £150 miliwn er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol i fusnesau yng Nghymru
Daw hyn wrth i’r camau cyntaf gael eu cymryd i ailagor busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol.
Bydd cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu codi ar gyfer y siopau hynny sydd ar agor ar hyn o bryd, gyda £150 miliwn ychwanegol ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i gefnogi’r busnesau hynny nad ydynt yn cael agor eto.
O ganlyniad i hyn, bydd modd i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, a busnesau manwerthu nad ydynt hanfodol, wneud cais am hyd at £5,000 os ydynt yn talu ardrethi annomestig.
Ffigurau brechu
Mae 1,056,787 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, tra bod 237,357 o bobl wedi’u brechu’n llawn.
Yn y cyfamser, mae’r corff wedi datgelu mai dim ond un preswylydd mewn cartref gofal sydd wedi cael ei frechu’n llawn – sef y ddau ddos – yng Ngheredigion a naw o rai dros 80 oed yn Sir Benfro.
Mae hanner y rhai dros 80 oed yn Nhorfaen wedi cael dau ddos o’r brechlyn – yn Sir Benfro mae’r nifer yn 0.1% ac mae’n 0.4% yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod bwlch o dros wyth wythnos rhwng y ddau frechiad yn rhoi “gwell amddiffyniad”.