Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn ymhelaethu ar sut y bydd ei lywodraeth yn llacio’r cyfyngiadau clo ar y radio’r bore yma, gan ddweud bod gan bobol yr hawl i “ddehongli” y canllawiau newydd i “aros yn lleol”.

Hyd yma bu gofyn i bobol aros gartref, ond mae’r rheolau am newid gan roi’r hawl i bobol deithio i gael torri gwallt ac ati – ond nid yw yn rheol gadarn bod rhaid cadw o fewn pum milltir i’ch cartref.

Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Radio 5 Live: “Canllawiau ydyn nhw ac maen nhw i’w dehongli o dan amgylchiadau unigol pobol.

“Wrth gwrs bydd pobol, yng nghefn gwlad Cymru yn arbennig, sydd ddim yn byw pum milltir i ffwrdd o siop – byddai’n rhaid iddyn nhw deithio ymhellach, a byddan nhw’n gallu gwneud hynny dros y pythefnos nesaf.

“Gall pobol ei ddehongli gyda rhywfaint o hyblygrwydd yn dibynnu ar eu hamgylchiadau lleol.”

Gofynnwyd iddo roi sicrwydd na fyddai pobol yn cael eu cosbi pe bydden nhw’n teithio mwy na phum milltir i fynd i siop neu i gael trin eu gwallt.

“Ar yr amod nad ydyn nhw yn pasio llawer o siopau er mwyn mynd i un arall, yna wrth gwrs bydd hynny’n gyson â’r rheol,” meddai.

Mynnodd ei fod yn gofyn i bobol aros yn lleol “am reswm da iawn”, gan ychwanegu er bod ffigyrau coronafeirws yng Nghymru yn addawol, bod y wlad yn parhau mewn perygl.

Pryderon am ail ddechrau teithio tramor ym mis Mai

Mae gan Mark Drakeford “bryderon” am ganiatau i bobol gychwyn teithio dramor mor gynnar â Mai 17, sef bwriad Llywodraeth Prydain.

Dywedodd wrth BBC Breakfast bod Medi 2020 wedi bod yn “fis anodd” yng Nghymru wrth i bobol ddychwelyd i’r wlad o wyliau dramor, a bod rhai wedi dod â Covid-19 gyda nhw.

“Dydw i ddim eisiau gweld yr holl waith caled y mae pobol yng Nghymru wedi’i wneud dros yr wythnosau diwethaf yn cael ei danseilio,” meddai.

“Mae trywydd y Prif Weinidog ar gyfer Lloegr yn glir iawn, bod y rhain yn ddyddiadau dangosol. A phan rydw i wedi codi hyn gyda gweinidogion y Deyrnas Unedig, maen nhw bob amser yn pwysleisio y byddai’r penderfyniad yn cael ei wneud yn llawer nes at yr amser.

“I mi, mae hynny’n edrych yn rhy gynnar.

“Byddwn am fod yn gwbl hyderus nad ydym yn wynebu’r risg o ailgyflwyno’r feirws, yn enwedig gan ein bod bellach yn gwybod bod amrywiolion newydd o’r feirws mewn rhannau eraill o’r byd.”

Pobol o Loegr ddim am allu teithio i Gymru dros y Pasg

Ni fydd pobol yn Lloegr yn gallu mynd ar wyliau yng Nghymru pan fydd llety hunangynhaliol yn ailagor adeg y Pasg, meddai’r Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford wrth raglen Today ar BBC Radio 4 ei fod yn gobeithio y byddai twristiaeth yn agored i bobol y tu allan i Gymru erbyn yr haf, pe bai sefyllfa’r coronafeirws yn parhau i wella.

“Adeg y Pasg, bydd Cymry yn gallu teithio am wyliau dros y Pasg o fewn Cymru, ac i lety hunangynhaliol,” meddai.

“Ni fydd y rheolau yn Lloegr yn caniatáu hynny. Mae trywydd y Prif Weinidog yn dweud, am yr wythnosau ar ôl Mawrth 29, y dylai pobl leihau teithio, na fydd gwyliau, ac ni fydd pobl yn cael aros oddi gartref dros nos.

“Os na fydd hi’n ddiogel aros dros nos yn Lloegr, yna yn amlwg ni fyddai’n ddiogel i bobol deithio i Gymru.”