Mae’r Brenin Goodwill Zwelithini, arweinydd traddodiadol cenedl y Zulu yn Ne Affrica, wedi marw yn 72 oed ar ôl bod yn yr ysbyty am fwy na mis.

Roedd gan Goodwill Zwelithini broblemau iechyd yn ymwneud â diabetes, yn ôl adroddiadau newyddion lleol.

Bu wythfed brenin y Zulu yn teyrnasu am fwy na hanner canrif – y teyrnasiad hiraf yn eu hanes.

Wrth ei waith yn arweinydd traddodiadol y genedl Zulu, nid oedd gan Goodwill Zwelithini swydd wleidyddol – ond roedd ganddo gryn ddylanwad dros y 12 miliwn o Zulu yn Ne Affrica.

Y Zulu yw’r grŵp ethnig mwyaf o’r 60 miliwn o bobl sy’n byw yn Ne Affrica.

Roedd y Brenin Zwelithini yn feirniadol o bolisi ailddosbarthu tir arfaethedig y llywodraeth, oherwydd ei effaith ar ddarnau mawr o dir a oedd yn perthyn i’r genedl Zulu.

Mae Ymddiriedolaeth Ingonyama, a reolir gan y brenin, yn berchen ar 29% o dir talaith KwaZulu-Natal, sy’n medsur tua 10,811 milltir sgwâr.

Amcangyfrifir bod mwy na phum miliwn o bobol yn byw ar y tir.

Canmol y brenin

Mae’r Brenin Zwelithini wedi ei ganmol gan Cyril Ramaphosa, Arlywydd De Affrica, am ei gyfraniad i ddatblygiad economaidd a diwylliannol KwaZulu-Natal.

“Bydd ei Fawrhydi yn cael ei gofio fel brenin llawn gweledigaeth, annwyl iawn a wnaeth gyfraniad pwysig i hunaniaeth ddiwylliannol, undod cenedlaethol, a datblygu economaidd yn KwaZulu-Natal a thrwy hyn, i ddatblygiad ein gwlad,” meddai’r Arlywydd.

Bu gwleidyddion yr wrthblaid hefyd yn cydymdeimlo â chenedl y Zulu.

“Mae ein cydymdeimlad yn mynd allan i’w deulu, y Tŷ Brenhinol a chenedl y Zulu yn y cyfnod hwn o golled,” meddai John Steenhuisen, arweinydd Cynghrair Ddemocrataidd yr wrthblaid.