Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi heddiw (dydd Gwener 12 Mawrth), y bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r cyfyngiad ‘aros gartref’ yng Nghymru o yfory ymlaen, ac yn gofyn i bobl ‘aros yn lleol’ yn lle.
Bydd hyn yn rhan o “ddull gofalus, pwyllog a graddol o lacio’r cyfyngiadau coronafeirws,” medd Llywodraeth Cymru.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cyhoeddi £150m yn ychwanegol i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau parhaus yn effeithio arnynt.
Manylion
O yfory (dydd Sadwrn, 13 Mawrth) ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi.
Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis, a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau – ar gyfer un ymwelydd dynodedig.
O ddydd Llun ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion ysgol uwchradd sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd i’r dosbarth. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â dysgwyr blynyddoedd 10 a 12 yn eu holau a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau.
Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.
Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn ailagor ar gyfer apwyntiadau o ddydd Llun ymlaen.
O ddydd Llun, 22 Mawrth ymlaen, bydd siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol, wrth i’r cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei werthu mewn siopau sydd ar agor ar hyn o bryd gael eu codi.
Bydd canolfannau garddio yn cael agor hefyd. Bydd pob siop, gan gynnwys yr holl wasanaethau cyswllt agos, yn cael agor o 12 Ebrill.
“Datgloi yn raddol”
Wrth wneud y cyhoeddiad yn y gynhadledd amser cinio, bydd Mark Drakeford yn dweud y bydd Cymru’n “datgloi yn raddol”.
“Rydyn ni’n mynd ati i ddatgloi pob sector yn raddol – gan ddechrau gydag ysgolion.
Byddwn ni’n gwneud newidiadau fesul cam bob wythnos i adfer rhyddid yn raddol.
Byddwn ni’n monitro pob newid a wnawn, fel y byddwn ni’n gwybod pa effaith y mae pob newid wedi’i chael ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru.”
Plaid Cymru’n cefnogi
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad disgwyliedig, gan ddweud y dylai’r neges ‘aros yn lleol’ gael ei chadw cyhyd ag sy’n “angenrheidiol”.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y dylid llacio’r cyfyngiadau “yn araf ac yn gyson” a phwysleisiodd yr angen am y “cynllun cliriaf posib” ar gyfer busnesau.
“Dylid lleddfu’r cyfyngiadau teithio yn ofalus a’r dull synhwyrol yw ailgyflwyno’r neges ‘aros yn lleol’ cyhyd ag y bo angen – gan sicrhau bod canllawiau’n cael eu teilwra yn dibynnu ar ble mae pobl yn byw.
“Gall ‘aros yn lleol’ olygu gwahanol bethau mewn gwahanol rannau o Gymru – yn enwedig y Gymru wledig.
“Mae angen llacio unrhyw gyfyngiadau yn araf ac yn gyson. Wedi’r cyfan, rydym i gyd am i’r cyfyngiadau hyn fod yr olaf un sy’n ein hwynebu.
“Ond yn anad dim, rydym yn cefnogi mesurau sy’n anelu at gadw pobl yn ddiogel, yn seiliedig ar dystiolaeth – ond mae angen y cynllun cliriaf posibl ar bobl a busnesau am y ffordd sydd o’n blaenau.
“Fodd bynnag, mae unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd yn her wirioneddol i lawer o bobl, a gobeithiwn y bydd y llywodraeth yn canolbwyntio’n sydyn ar pryd a sut y bydd yn ddiogel dychwelyd i swigod cartref estynedig.
“Ni allwn ‘chwaith anwybyddu’r argyfwng iechyd meddwl sydd wedi’i gyflwyno oherwydd y pandemig – mae’n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i alluogi campfeydd i fod ymhlith y cyfleusterau cyntaf i ailagor.”