Mae’r oedi o ran achosion troseddol yn llysoedd y goron yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn blwyddyn.

Mae ffigurau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 56,544 o achosion llys y goron heb eu cwblhau ddiwedd mis Ionawr, i fyny o 55,676 ym mis Rhagfyr.

Mae hyn yn cymharu â 38,411 flwyddyn ynghynt, cyn i’r pandemig coronafeirws orfodi llysoedd i gau.

Yn gyffredinol, mae’r oedi wedi gostwng o gyfanswm o 455,374 ym mis Rhagfyr i 441,791 ym mis Ionawr.

Mae hyn yn adlewyrchu gostyngiad yn nifer yr achosion llys ynadon sydd heb eu cwblhau, o 399,698 ym mis Rhagfyr i 385,247 ym mis Ionawr.

Ond mae’r cyfanswm yn dal i fod dros 80,000 yn uwch nag ym mis Ionawr 2020.

“Canlyniadau mawr” i ddioddefwyr a thystion

Yn gynharach yr wythnos hon, rhybuddiodd arolygwyr, hefyd, fod llwyth yr achosion ar gyfer erlynwyr yn cynyddu ar “gyfradd frawychus” a gallai arwain at “ganlyniadau mawr” i ddioddefwyr a thystion.

Dywedodd yr arolygiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi (HMCPSI) fod oedi mewn achosion sy’n dod i’r llys yn effeithio ar “allu dioddefwyr, tystion a diffynyddion i gofio’r digwyddiadau ac yn gallu effeithio ar eu parodrwydd i fynychu’r llys i roi tystiolaeth”.

Yn y cyfamser mae rhai cyfreithwyr wedi dweud eu bod eisoes yn gweld achosion yn cael eu rhestru ar gyfer 2023.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn buddsoddi £450 miliwn i “hybu adferiad yn y llysoedd a sicrhau cyfiawnder cyflymach”, gan fynnu bod hyn “eisoes yn arwain at ganlyniadau”.

Ym mis Mehefin, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Robert Buckland ei fod yn gobeithio clirio’r ôl-groniad o achosion llys a waethygwyd gan y pandemig erbyn y Pasg eleni.

Yn fwy diweddar, mae wedi mynegi gobaith y gellid dod â nifer yr achosion sy’n weddill yn ôl i lefelau derbyniol cyn Pasg 2023.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Mae’r pandemig wedi bod yn her ddigynsail i’n llysoedd troseddol, ond mae staff a gweithwyr proffesiynol gweithgar wedi gwneud popeth yn eu gallu i barhau i ddarparu cyfiawnder i ddioddefwyr.

“Mae heriau mawr yn parhau a dyna pam rydym yn gwario cannoedd o filiynau i gefnogi adferiad, sicrhau cyfiawnder cyflymach a chefnogi dioddefwyr.”