Fe allai llacio’r cyfyngiadau yn rhy gyflym cyn mis Mehefin arwain at drydedd don yn ôl cynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad y Grŵp Cynghori Technegol yn nodi bod trosglwyddiad uwch amrywiolyn Caint yn golygu bod angen llacio rheolau’n raddol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.
Mae’n debygol y bydd dros 800 o farwolaethau eraill yng Nghymru o ganlyniad i’r feirws cyn diwedd mis Mehefin, ond mae adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau yn rhybuddio y gallai’r ffigwr fod llawer uwch pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio rhy gyflym.
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gyhoeddi’r camau cyntaf tuag at lacio’r cyfyngiadau amser cinio yfory (dydd Gwener 12 Mawrth)
Llacio graddol
Yn ôl cyngor, gafodd ei roi i weinidogion fis diwethaf, gallai dychweliad graddol i addysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion, ochr yn ochr ag aros mewn cyfyngiadau Lefel 3 tan ddiwedd mis Mehefin, fod yn ddigon i gadw lefelau’r feirws i lawr.
“Mae’r senarios hyn yn awgrymu y dylai llacio graddol, ynghyd â chynnydd graddol o blant yn yr ysgol wyneb yn wyneb, fod yn gyraeddadwy heb don arall o achosion, pobol yn mynd i’r ysbyty, a marwolaethau … cyn belled â bod pobol bod yn ‘glynu wrth gyfyngiadau’,” meddai’r adroddiad.
Ond gallai llacio’r cyfyngiadau’n gynnar, gan gynnwys symud i Lefel 3 y mis hwn ac yna i Lefel 2 cyn diwedd mis Mehefin, arwain at gynnydd mewn achosion.
Yn ôl yr adroddiad, gallai’r amrywiolyn newydd ynghyd â llacio’n rhy gyflym achosi “trydedd ton lle mae achosion yn uwch na’r ail don a welwyd ym mis Ionawr”.
Rhagdybir y byddai llai o farwolaethau nag a welwyd ym mis Ionawr oherwydd y brechlyn – ond mae’r adroddiad hefyd yn cynghori yn erbyn dibynnu ar frechiadau fel ffordd allan o’r pandemig.
Senario waethaf posib
Mae’r adroddiad yn tybio mai’r sefyllfa waethaf bosib yw 194,161 o achosion a 3,496 o farwolaethau eraill rhwng Chwefror 22 a Mehefin 30.
Ond y senario mwyaf tebygol yw 57,866 o achosion eraill ac 806 o farwolaethau.
Ffigurau diweddaraf
Cofnodwyd 195 o achosion pellach o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 205,788.
Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 12 o farwolaethau pellach, gan fynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r pandemig i 5,424.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 1,034,141 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi yng Nghymru, cynnydd o 14,931 o’r diwrnod blaenorol.
Dywedodd yr asiantaeth fod 221,902 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 15,508.