Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30m ychwanegol i ddatblygu addysg Gymraeg a chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Nod y buddsoddiad yw cynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cefnogi trochi yn y Gymraeg, a helpu dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog i wella eu sgiliau a’u hyder yn y Gymraeg.

Mae’r cyllid yn ail ran o fuddsoddiad o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg, a sefydlwyd yn 2018 – mae’r Llywodraeth eisoes wedi darparu £46 miliwn i awdurdodau lleol drwy’r cynllun.

Daw hyn wedi i Bil y Cwricwlwm Newydd gael ei basio’r wythnos yma.

“Mae darparu ysgolion o’r radd flaenaf i blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn allweddol i Brosiect 2050,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Mae mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg yn sicrhau bod plant yn dod yn ddwyieithog o leiaf.

“Mae angen i ni hefyd gynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog sy’n dysgu Cymraeg yn llwyddiannus.

“Rwyf am sicrhau bod mwy o ysgolion dwyieithog yn cyflwyno cyfran fwy o’r cwricwlwm newydd yn y Gymraeg, er mwyn rhoi sylfaen ieithyddol gref i ddysgwyr.

“Mae’r cyllid yn ategu ein rhaglen wych Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, sydd wedi cwblhau 170 o brosiectau ysgolion neu golegau newydd yn ei cham cyntaf, gyda 43 o brosiectau newydd ar y gweill.

“Rydym yn bwrw ymlaen â chyflawni prosiectau cyfalaf i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan helpu i gyflawni ein nod hirdymor o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

“Anffodus iawn” bod Bil y Cwricwlwm yn cyrraedd ei gyfnod olaf heb elfen orfodol o hanes Cymru, medd Plaid Cymru

Dywed Siân Gwenllian y bydd disgyblion yn destun “loteri cod post” heb gorff cyffredin o wybodaeth