Bydd diffyg amser ac adnoddau athrawon yn golygu y bydd darpariaeth Hanes Cymru yn “dameidiog” yn y cwricwlwm newydd, medd Plaid Cymru

Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, wedi mynegi ei siom ei bod yn debygol y bydd Bil y Cwricwlwm Newydd yn cael ei basio heb elfen orfodol o Hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobol ddu a phobol o liw.

Mae disgwyl i’r Bil gyrraedd ei gyfnod olaf y prynhawn yma yn y Cyfarfod Llawn (Dydd Mawrth 9 Mawrth).

Cafodd pryderon eu codi ynghylch addysgu Hanes Cymru mewn ffordd ’dameidiog’ yn 2019 gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd, ac mae sawl llais wedi galw am “gorff cyffredin o wybodaeth” i ddysgu Hanes Cymru.

Galw drachefn am sefydlu corff cyffredin o wybodaeth i ddysgu Hanes Cymru

Angen “mwy o ganllawiau” a “mwy o arweiniad” ar ysgolion, medd Ymgyrch Hanes Cymru

“Loteri cod post”

Dywed Siân Gwenllian y bydd disgyblion yn destun “loteri cod post” heb gorff cyffredin o wybodaeth.

Noda hefyd fod “gwybod a deall treftadaeth Cymru a’n lle yn y byd yn hawl y mae pob disgybl o Gymru yn ei haeddu”.

“Mae’n siomedig iawn gweld y Bil hwn yn cyrraedd ei gam olaf heb Hanes Cymru, gan gynnwys hanes Pobl Dduon a Phobl Dduon, fel elfen orfodol o’r cwricwlwm,” meddai.

“Mae gwybod a deall treftadaeth Cymru a’n lle yn y byd yn hawl y mae holl ddisgyblion Cymru yn ei haeddu ac mae’n hanfodol i sicrhau bod disgyblion Cymru yn ‘ddinasyddion gwybodus o Gymru a’r byd’, fel y mae’r bil yn ei nodi.

“Dylai stori genedlaethol Cymru fod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd, wedi’i chynnwys ar wyneb y Bil ac wedi’i chefnogi gydag adnoddau a hyfforddiant i athrawon. Fel arall, prin fydd y canllawiau i ysgolion ar ei addysgu a’i weithredu ac yn y pen draw bydd yn annhebygol iawn y caiff ei addysgu’n ymarferol.

“Mae’n anffodus iawn bod ein plant a’n pobl ifanc i fod yn destun loteri cod post o ran y cwricwlwm newydd, rhywbeth sy’n anochel heb gorff gorfodol, cyffredin o wybodaeth i ysgolion ei addysgu.”

Gwrthod gwelliant ar orfodi ysgolion y wlad i ddysgu Hanes Cymru

“Dw i am weld a sicrhau… y caiff y meysydd hyn eu cwmpasu ar draws y cwricwlwm,” meddai Kirsty Williams

Yr apêl tros hanes

Dylan Iorwerth

Hyd yn oed petai’n beth ideolegol i ddysgu Hanes Cymru, mi fyddai’r un mor ideolegol i wrthod gwneud