Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith y Gymraeg i gyd-fynd â Bil y Cwricwlwm.
“Rwy’n hapus i ddatgan eto heddiw y byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu fframwaith o’r fath i gefnogi gwelliant addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng-Saesneg,” meddai Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, bryd hynny.
Statudol
Ond mae Cymdeithas yr Iaith am weld y fframwaith hwnnw yn cael ei wneud yn statudol yng Nghyfnod 4 y Bil, fydd yn digwydd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 9).
Daeth sylwadau’r Gweinidog yn dilyn llythyr a gafodd ei anfon gan chwe mudiad iaith – Cymdeithas yr Iaith, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg a Dyfodol i’r Iaith – at Kirsty Williams ar Chwefror 26, oedd yn dweud bod “Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg a dileu Cymraeg Ail Iaith ers 2015″.
“Bydd y continwwm yn sicrhau dilyniant a pharhad yn y dysgu a’r addysgu ar draws y cwricwlwm ac yn arbennig wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd,” meddai wedyn.
“Mae Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn gam pwysig tuag at sefydlu continwwm dysgu Cymraeg.
“Rydym yn siomedig gyda’r penderfyniad i wrthod y gwelliant i’r Bil fyddai wedi sicrhau Cod Addysgu’r Gymraeg ar un Continwwm.
“Fodd bynnag croesawn eich awgrym i lunio Fframwaith Iaith Gymraeg statudol a fyddai’n rhoi arweiniad clir a chanllawiau pellach ar weithredu’r continwwm.
“Tybiwn fod angen cyfeirio at y Fframwaith ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau statws statudol, ac er mwyn rhoi arwydd clir i’r sector addysg a gynhelir a nas gynhelir ynghylch difrifoldeb Llywodraeth Cymru am sicrhau y gweithredir y continwwm yn effeithiol.”
“Cyfle euraidd”
“Ry’n ni’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad clir i gyflwyno fframwaith iaith, gan y bydd cyflwyno fframwaith o’r fath yn gwbl angenrheidiol os ydyn ni am wireddu un continwwm addysg Gymraeg i bawb,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Bydd Cymdeithas yr Iaith a’r mudiadau iaith eraill yn croesawu’r cyfle i weithio gyda’r Gweinidog Addysg i ddatblygu fframwaith o’r fath.
“Mae’n bwysig fod y fframwaith yn glir ac yn gryf – yr unig ffordd o sicrhau hyn yw drwy ei wneud yn statudol ar wyneb y Bil.
“Dyma gyfle euraidd i roi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru allu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg, ac mae’n hollbwysig fod y Llywodraeth felly’n mynd ati yn y ffordd gywir er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon; os na fydd y fframwaith yn cael ei wneud yn statudol ar wyneb y Bil yna byddwn yn colli’r cyfle hwn ac yn gwneud cam â phlant Cymru.”
“Hanfodol bod disgwyliadau clir yn cael eu gosod”
“Wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, mi fydd yn hanfodol bod disgwyliadau clir yn cael eu gosod nid yn unig o ran y cynnydd y disgwylir i ddisgyblion ei wneud yn y Gymraeg – cynnydd yr un mor gadarn ac uchelgeisiol ac mewn pynciau eraill – ond, yn ogystal, y cynnydd y disgwylir i ysgolion ei wneud ar hyd continwwm iaith, a pha gefnogaeth fydd ar gael iddynt wneud hynny,” meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC.
“Mae’n glir i ni mai Fframwaith Iaith Gymraeg statudol yw’r ffordd orau o wneud hynny.”