Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, i ystyried ei dyfodol yn y swydd yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol am amodau byw mewn gwersyll i ffoaduriaid ym Mhenalun yn Sir Benfro.

Mae aelod seneddol Dwyfor Meirionnydd yn cyhuddo’r Swyddfa Gartref o “ddiystyru iechyd ac urddas pobol” ar ôl i’r adroddiad disgrifo’r gwersyll ar safle barics fel “brwnt” a “thlawd”.

Mae hi bellach yn galw am gau’r gwersyll “heb oedi”.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn defnyddio’r safle i gartrefu ceiswyr lloches yng ngwledydd Prydain ers mis Medi y llynedd.

Ond yn dilyn archwiliad oedd wedi para deuddydd ac yna cyhoeddi’r adroddiad, mae’r safle wedi cael ei ddisgrifio fel un sy’n “anaddas fel llety hirdymor”, ac mae’r adroddiad yn nodi bod pobol ar y safle’n “teimlo’n isel eu hysbryd ac yn anobeithio ynghylch eu hamgylchiadau”.

Mae’r adroddiad yn nodi bod Iechyd Cyhoeddus Cymru a Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi mynegi pryder am ddiogelwch y llety yn Sir Benfro ac yng Nghaint yn sgil Covid-19, ond fod y safleoedd wedi cael eu hagor cyn gweithredu ar argymhellion yr adroddiad.

Ac mae hefyd yn nodi na chafodd rhanddeiliaid fod yn rhan o ymgynghoriad ymlaen llaw, er bod Liz Saville Roberts wedi codi’r mater â Priti Patel yn San Steffan.

Mae’r adroddiad, ymhellach, yn cyhuddo’r Swyddfa Gartref o “fethiannau sylfaenol o ran arweinyddiaeth a chynllunio” ac mae Liz Saville Roberts yn dweud na all hynny barhau.

‘Wfftio pryderon’

“Mae’r adroddiad cwbl ddamniol hwn yn dangos bod y Swyddfa Gartref yn diystyru iechyd ac urddas pobol,” meddai Liz Saville Roberts.

“Rhaid cau gwersyll Penalun heb oedi.

“Ers mis Medi, mae Plaid Cymru wedi bod yn codi pryderon am yr amodau anniogel ac aflan ym Mhenalun.

“Dro ar ôl tro, mae’r Swyddfa Gartref yn drahaus wedi wfftio ein pryderon.

“Fis diwethaf yn unig, gofynnais i’r Ysgrifennydd Cartref am y diffyg ymgynghoriad â rhanddeiliad lleol ym Mhenalun.

“Atebodd hi fod y Swyddfa Gartref ‘yn ymgynghori â phawb’.

“Ond heddiw, fe welwn ni gadarnhad, mewn du a gwyn, nad oedd hyn yn wir – chafodd y fath ymgynghoriad mo’i gynnal.

“Ni all, ni ellir caniatáu i’r fath fethiannau o ran arweinyddiaeth barhau.

“Rhaid i’r Ysgrifennydd Cartref ystyried ei safle.”