Mae disgwyl y bydd miliwn o bobol yng Nghymru wedi derbyn eu brechlyn cyntaf yn erbyn y coronafeirws erbyn diwedd y dydd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 9).
Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Llun, Mawrth 8), mae 998,296 o bobol yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn a 183,739 o bobol wedi derbyn ail ddos.
Oherwydd cynnydd mewn cyflenwadau, mae disgwyl y bydd 20,000 o bobol yn cael eu brechu gyda’r dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19, a 10,000 yn cael ail ddos bob dydd o hyn allan.
Gallai’r cynnydd mewn cyflenwadau arwain hefyd at agor mwy o ganolfannau brechu, a mwy o meddygfeydd a fferyllfeydd yn brechu pobol.
Ar ôl dechrau araf i’r rhaglen frechu, Cymru oedd y wlad gyntaf o blith gwledydd Prydain i roi dos cyntaf o frechlyn Covid-19 i draean o’r boblogaeth o oedolion.
Fis Chwefror, cafodd targedau brechu Llywodraeth Cymru eu diweddaru ac mae disgwyl i’r brechlyn fod wedi cael ei gynnig i bob grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Ebrill ac i bob oedolyn arall erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Bellach, mae dros 22m o bobol wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn yng ngwledydd Prydain a mwy na miliwn wedi derbyn yr ail ddos.
Ffigurau diweddaraf
Ar hyn o bryd, mae gan Gymru gyfradd wythnosol o 45 achos ym mhob 100,000 o’r boblogaeth.
Ddoe (dydd Llun, Mawrth 8), cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd unrhyw farwolaethau oherwydd Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y 24 awr blaenorol.
Dyma oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers dechrau mis Medi y llynedd, ond mae’n bosib i’r ffigurau gael eu heffeithio gan oedi yn y system gofnodi dros y penwythnos.
Mae’n golygu bod 5,403 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws yng Nghymru.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 163 o achosion newydd wedi eu cadarnhau gan fynd â’r cyfanswm i 205,202 ers dechrau’r pandemig.