Mae Senedd Ewrop wedi pleidleisio dros ddileu imiwnedd gwleidyddol Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia.
Fe allai hynny arwain at ei estraddodi’n ôl i Sbaen i wynebu cyhuddiadau o annog terfysg a chamddefnyddio arian cyhoeddus.
Mae’r cyfan yn ymweud â’r ymgyrch tros annibyniaeth, wrth i Sbaen barhau i ddadlau bod refferendwm answyddogol a gafodd ei gynnal yn 2017 yn anghyfreithlon.
Yn y bleidlais yn Senedd Ewrop, pleidleisiodd 400 o blaid dileu ei imiwnedd, 248 yn erbyn ei ddileu, ac fe wnaeth 45 atal eu pleidlais neithiwr (nos Lun, Mawrth 8).
Mae disgwyl penderfyniad yn achos dau arall, Antoni Comín a Clara Ponsatí, yn ddiweddarach.
Mae un o bwyllgorau Senedd Ewrop yn dweud nad oes modd cynnig imiwnedd gan fod y refferendwm wedi’i gynnal cyn iddyn nhw ddod yn Aelodau o Senedd Ewrop, ac felly dydy’r sefydliad ddim yn gallu eu gwarchod nhw.
Yn sgil y bleidlais, gallai awdurdodau Sbaen geisio caniatâd i arestio Carles Puigdemont i’w ddychwelyd i Sbaen – penderfyniad sydd yn nwylo system gyfiawnder Gwlad Belg, lle mae’r cyn-arweinydd bellach yn byw’n alltud.
Er gwaetha’r sefyllfa, mae disgwyl i’r tri barhau’n Aelodau o Senedd Ewrop am y tro.
Beth nesaf?
Mae naw o bobol sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia eisoes wedi’u cael yn euog o annog terfysg ac wedi’u carcharu am hyd at 13 mlynedd.
Roedd disgwyl i’r tri dan sylw sefyll eu prawf yr un pryd, ond fe aethon nhw’n alltud gan osgoi achos llys.
Mae cyfreithwyr Carles Puigdemont yn gobeithio manteisio ar gynsail achos Lluís Puig, gwleidydd arall o Gatalwnia.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth awdurdodau Gwlad Belg wrthod ei estraddodi gan ddadlau nad oedd Goruchaf Lys Sbaen yn ddigon abl i ymdrin â’r achos ac na fydden nhw’n ei ystyried yn ddieuog cyn ei gael yn euog.
Mae barnwr yn y Goruchaf Lys yn Sbaen wedi trosglwyddo’r achos i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd am benderfyniad cychwynnol am y ffordd mae llysoedd Gwlad Belg yn ymdrin â’r achos.
Pe bai’r system gyfiawnder yng Ngwlad Belg yn gwrthod cydymffurfio â dymuniadau Sbaen, bydd modd i’r tri aros yn y wlad a pharhau’n Aelodau o Senedd Ewrop, ond hynny heb imiwnedd.
Dim ond Sbaen sydd â’r hawl i benderfynu a fyddan nhw’n cael aros yn Aelodau o Senedd Ewrop ar ran y wlad.