Mae’r elusen anabledd Sense wedi galw am weithredu brys i ehangu gwasanaethau pwrpasol sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobol sydd ag anableddau.
Mae’r elusen hefyd wedi galw am gynyddu cymorth iechyd meddwl i bobol sydd ag anableddau.
Yn ôl ffigurau gan yr elusen, mae 61% o bobol ag anableddau wedi teimlo’n unig iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod y cyfraddau’n uwch ymhlith pobol iau (70%).
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod 70% yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi ei effeithio dros y flwyddyn diwethaf.
Yn ôl yr elusen, mae’r pandemig wedi gwaethygu problem oedd yn bod cyn y pandemig.
‘Colli fy holl annibyniaeth’
Mae Natalie Williams o Lynebwy yn byw gyda Syndrom Usher, sy’n achosi iddi golli ei chlyw a’i golwg yn raddol.
Ers iddi gael diagnosis yn 2012, mae hi wedi bod yn benderfynol nad yw’r afiechyd am amharu ar ei gallu i fyw bywyd annibynnol, ond mae’n cydnabod bod y pandemig wedi newid ei byd.
“Ers y cyfyngiadau cyntaf fis Mawrth [y llynedd], dw i wedi colli’r holl annibyniaeth dw i wedi gweithio mor galed amdano,” meddai.
“Dw i’n methu mynd allan ar fy mhen fy hun.
“Dw i ddim yn clywed yn ddigon da i ddefnyddio’r ffôn na gweld yn ddigon da ar gyfer galwadau fideo, felly mae’n anodd cadw mewn cysylltiad â phobol.
“Roedd cael diagnosis o syndrom Usher yn brofiad ynysig iawn, ond drwy Sense, dechreuais i deimlo’n llai a llai unig.
“Cyflwynodd yr elusen fi i Leanne, oedd hefyd newydd gael diagnosis o syndrom Usher.
“Gyda’n gilydd, fe wnaethom gwrdd a rhannu ein profiadau.
“Roedd hi mor bwysig i ni cwrdd a sgwrsio a chael cefnogaeth gan ein Cefnogwyr Cyfathrebu.
“Fe dyfon ni mor agos, gofynnodd Leanne i fi fod yn fam fedydd i’w merch.
“Byddaf yn trysori’r diwrnod hwnnw am byth.”
‘Yn gaeth i’r tŷ’
Ers dechrau’r pandemig, mae gwasanaethau fel Cefnogwyr Cyfathrebu wedi cael eu hatal.
“Roeddwn yn gaeth i’r tŷ,” eglura Natalie Williams.
“Dw i’n gwybod y bydd yn cymryd amser cyn i’r byd ddod mor hygyrch ag yr oedd o’r blaen i mi.
“Fy ngobaith yw bod mwy o ymwybyddiaeth o anableddau pan fydd popeth yn agor a gallaf adael y tŷ heb deimlo mor bryderus.
“Gyda chefnogaeth fy ffrindiau, fy nheulu a’m canllaw cyfathrebwr, byddaf yn ennill fy annibyniaeth yn araf ond gyda chefnogaeth fy nghymuned leol, bydd yr annibyniaeth honno’n dod yn ôl yn gyflymach nag erioed.”
‘Angen blaenoriaethu brechu pobol gydag anableddau dysgu’
Gweithwyr anabl yn ennill 20% yn llai o gyflog – ac fe allai’r bwlch gynyddu