Mae Robert Buckland, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, wedi gwrthod cais gan gyfreithiwr Anne Sacoolas i gael gwneud gwasanaeth cymunedol di-dâl.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth Harry Dunn, 19, mewn gwrthdrawiad ger safle’r awyrlu yn Swydd Northampton fis Awst 2019.

Mae cyfreithiwr y wraig i ddiplomydd Americanaidd yn dadlau nad oes rhaid iddi ddychwelyd i wledydd Prydain i wynebu cyhuddiadau am na fyddai fel arfer yn arwain at ddedfryd o garchar yn yr Unol Daleithiau.

Ond mae Robert Buckland yn awyddus i sicrhau atebolrwydd am farwolaeth Harry Dunn.

“Yma yng Nghymru a Lloegr, rydym yn hoff o ymdrin â phethau yn y drefn briodol,” meddai ar raglen Today ar Radio 4.

“Ar hyn o bryd, mae yna fater difrifol iawn ar y gweill yn ymwneud â dull gyrru honedig y person hwn a marwolaeth dyn ifanc sydd wedi gadael teulu nad ydyn nhw ddim ond yn galaru ond sydd eisiau cyfiawnder hefyd.

“Fel mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi’i ddweud, mae’r sefyllfa bresennol yn ymwrthod â chyfiawnder.

“Yn hytrach na siarad am y ddedfryd a fyddai’n briodol, gadewch i ni ymdrin â chwestiwn atebolrwydd yn gyntaf.

“Yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud yw dilyn y broses briodol ac ymdrin â mater atebolrwydd troseddol yn gyntaf.”