Gallai arweinwyr crefyddol a hyfforddwyr chwaraeon gael eu hatal rhag cael perthynas rywiol â phobol 16 ac 17 oed yn eu gofal yn ôl cyfraith newydd.

Mae’r gyfraith eisoes yn berthnasol i athrawon, meddygon a sawl galwedigaeth arall lle mae elfen o ofal yn rhan o’r swydd.

Daw’r newid posib yn dilyn ymgyrch hirdymor yn sgil pryderon y gallai troseddwyr rhyw fanteisio ar swyddi er mwyn cael mynediad at bobol ifanc.

Mae elusen NSPCC wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Rydym wrth ein boddau ar ôl ymgyrchu’n ddiflino fod y Llywodraeth, o’r diwedd, wedi gwrando ar ein galwadau ac wedi cytuno i gau’r bwlch cyfreithiol hwn,” meddai Peter Wanless, prif weithredwr yr elusen.

“Mae’r garreg filltir hon yn anfon neges glir y gall plant a phobol ifanc ddychwelyd i’r gweithgareddau allgyrsiol maen nhw’n eu caru heb risg o gael eu meithrin gan yr oedolion y dylen nhw fod yn edrych tuag atyn nhw am gefnogaeth ac arweiniad.”

Gweddnewid y system gyfiawnder

Daw hyn wrth i’r Senedd adolygu cyfres o gyfreithiau heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 9) i weddnewid y system gyfiawnder.

Ymhlith y mesurau dan ystyriaeth mae dedfrydau oes gyfan am y rhai sy’n llofruddio plant, a’r hawl i farnwyr gyflwyno cosbau llymach ar gyfer pobol 18 i 20 oed mewn amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys brawychwyr sy’n achosi marwolaethau torfol.

Gallai gyrwyr sy’n achosi marwolaeth hefyd wynebu oes o garchar, a gallai carcharorion golli’r hawl i gael eu rhyddhau hanner ffordd drwy ddedfryd am droseddau rhyw a threisgar.

Bydd hefyd yn gymorth i’r awdurdodau fynd i’r afael â throseddau cyllyll, gan roi’r hawl i’r heddlu stopio a chwilio pobol yn haws os ydyn nhw dan amheuaeth o fod â chyllell yn eu meddiant.

Gallai’r gosb am ddifrodi cofebau gael ei gynyddu o dri mis o garchar i ddeng mlynedd, ac fe allai’r heddlu gael mwy o hawliau wrth dawelu protestiadau nad ydyn nhw’n dreisgar ond sy’n achosi anghyfleustra ac wrth atal pobol rhag gwersyllu heb awdurdod.

Bydd y drefn newydd yn galluogi mwy o gydweithio rhwng yr heddlu, cynghorau lleol, cyrff cyfiawnder troseddol, awdurdodau iechyd a’r gwasanaeth tân wrth rannu gwybodaeth am droseddau difrifol.

Un arall o’r mesurau dan ystyriaeth yw’r hawl i bobol fyddar gael bod yn aelod o reithgor, gan gynnig gwasanaethau cymorth iddyn nhw wrth drafod achosion cyn cyflwyno rheithfarn.

Ymateb

Tra bod Robert Buckland, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, a Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, yn croesawu’r newidiadau posib, mae rhai ymgyrchwyr yn feirniadol.

Yn ôl Liberty, mudiad hawliau dynol, mae’r mesurau i dawelu protestiadau’n “ymosod ar ein hawliau” ac yn “peri risg o atal gwrthwynebiad a’i gwneud yn fwy anodd i ni ddwyn y rhai pwerus i gyfrif”.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, “does dim gronnyn o dystiolaeth” fod cyflwyno mwy o gosbau’n arwain at lai o droseddau ac mae mudiad Merched yn y Carchar yn dweud na fydd y newidiadau’n datrys problemau nac yn gwneud cymunedau’n fwy diogel.