Mae Mabon ap Gwynfor, Ymgeisydd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ar frys â chynnydd mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc yr etholaeth. 

Mae ffigurau’n dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymysg pobol ifanc yr etholaeth yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Cyn y pandemig, roedd cyfradd diweithdra Dwyfor Meirionnydd yn 3.9%.

Erbyn hyn, mae’r gyfradd yn 8.6% tra bod cyfartaledd Cymru yn 8.5%.

Rhwng Chwefror y llynedd a Ionawr eleni, cynyddodd nifer y bobol 18-24 oed yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd sy’n hawlio cymorth ariannol gan y Llywodraeth o 122%.

Yng Nghymru, cynyddodd nifer y bobol sy’n hawlio cymorth ariannol gan y Llywodraeth o 82% dros yr un cyfnod.

Dywed Mabon ap Gwynfor fod angen i Lywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun Gwarant Swyddi i ddatblygu cyfleoedd cyflogaeth leol ar gyfer pobol ifanc 16–24 oed.

“Angen i ni weld gweithredu go iawn”

“Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra yn Nwyfor Meirionnydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf o ganlyniad i’r argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail yr ydym yn mynd trwyddo,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“O bryder arbennig yw nifer y bobol ifanc sydd bellach yn hawlio budd-daliadau diweithdra.

“Mae’r nifer wedi dyblu yn ystod y flwyddyn.

“Mae hyn yn haeddu sylw ar unwaith gan y llywodraeth a ddylai gamu i mewn a sicrhau bod opsiynau ar gael i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith.

“Mae angen i’r Llywodraeth rhoi ar waith rhaglen gwarantu swyddi ar gyfer pobl ifanc 16–24 oed, a gweithio gyda chyflogwyr lleol, Colegau a sefydliadau Chweched Dosbarth i sicrhau bod y cyfleoedd hynny yn cael eu datblygu, gan ddarparu llwybr trwy hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau.

“Ar ben hynny, mae yna brosiectau parod yma yng Ngwynedd y gallai’r Llywodraeth eu cychwyn ar unwaith, fel cynlluniau tai cymdeithasol, ôl-ffitio tai ac eraill.

“Rydym wedi clywed llawer o siarad am gyflogaeth ieuenctid gan amrywiol lywodraethau, ond rŵan mae angen i ni weld gweithredu go iawn.”

Mae gan Lywodraeth Cymru “weledigaeth glir a moesegol ar gyfer economi Cymru”

“Ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr bod ein Cymru yn fwy llewyrchus a hefyd yn decach ac yn wyrddach nag yr oedd cyn y pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi yn esbonio’n cynllun ar gyfer yr economi a bydd yr Ymrwymiad Covid, sydd yn rhan allweddol o’r Genhadaeth, yn creu cyfleoedd newydd a sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb sydd ei hangen.

“Mae gwasanaeth Cymru’n Gweithio’n dal i fod yn hollbwysig o ran cynnig cyngor ac arweiniad i bobl ifanc yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, rhaglenni i ddatblygu sgiliau gwaith a hunangyflogaeth, neu opsiynau i gario ymlaen i ddysgu.

“Mae gennym weledigaeth glir a moesegol ar gyfer economi Cymru sy’n cefnogi pawb yng Nghymru.”