Mae ymgyrch newydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth ac atal troseddau casineb yng Nghymru.

Mae Casineb yn Brifo Cymru yw’r ymgyrch gyntaf o’i fath i gael ei ddatblygu a’i lansio yng Nghymru.

Daw’r ymgyrch wrth i bobol yn y gymuned Tsieinïaidd yng Nghymru ddweud nad ydyn nhw bellach yn teimlo’n ddiogel nac yn gartrefol yn y wlad ers dechrau’r pandemig Covid-19.

Fe fu cynnydd eleni yn nifer y digwyddiadau hiliol yn erbyn pobol o dras Tsieinïaidd a de-ddwyrain Asia ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y sefyllfa’n “bryder enfawr”.

Y llynedd, cafodd dros 4,000 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru – cynnydd o 2% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

O blith y rheiny, roedd 65% yn droseddau casineb hiliol, 19% yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol, 11% ar sail anabledd, 10% yn erbyn pobol drawsryweddol a 5% ar sail crefydd.

Mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, wedi croesawu’r ymgyrch newydd.

“Yn anffodus, mae’r troseddau casineb y rhoddir gwybod amdanynt yng Nghymru a Lloegr yn rhy gyffredin o lawer,” meddai.

“Ar draws pedair ardal Heddlu Cymru, cofnodwyd 4,023 o droseddau casineb yn 2019-20, gyda’r mwyafrif yn gysylltiedig â chasineb hiliol.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn pwysleisio’r angen am godi ymwybyddiaeth, cefnogi dioddefwyr a sicrhau bod yr Heddlu’n cael gwybod am bob trosedd casineb.

“Does dim lle i gasineb nac unrhyw fath o ragfarn yng Nghymru.”

Effaith ddinistriol ar ddioddefwyr

Mae’r ymgyrch yn defnyddio enghreifftiau go iawn i dynnu sylw at bob un o’r pum nodwedd sydd wedi’u diogelu gan gyfreithiau troseddau casineb: hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd.

“Gall troseddau casineb gael effaith hynod ddinistriol ar ddioddefwyr gan eu bod yn ymosodiadau personol iawn ar ran o’u hunaniaeth,” meddai Jess Rees, Rheolwr Troseddau Casineb Cymru yng Nghanolfan Adrodd a Chefnogaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb.

“Ac eto, mae’n cael ei danadrodd ar raddfa enfawr gan fod y dioddefwyr yn aml yn ofni na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif neu’n poeni bod y digwyddiad yn ‘rhy ddibwys’ i roi gwybod amdano.

“O’n profiad ni, rydym wedi gweld llawer gormod o ddioddefwyr wedi’u heffeithio’n ddifrifol, yn emosiynol ac yn gorfforol, ac mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwybod bod troseddau casineb yn droseddau difrifol.

“Os yw pobl wedi rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiad ai peidio, mae Cymorth i Ddioddefwyr yma i helpu dioddefwyr sydd wedi’u heffeithio gan droseddau casineb, pryd bynnag bydd arnynt angen hynny.

“Ni ddylai unrhyw un deimlo mewn perygl oherwydd y llu o droseddau casineb.”

Cynnydd bach mewn troseddau casineb

Roedd cynnydd o 2% mewn troseddau casineb yng Nghymru yn 2019/2020