Mae cannoedd o weithwyr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA) wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol oherwydd pryderon ynghylch iechyd a diogelwch mewn perthynas â Covid.

Cefnogodd aelodau undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn y swyddfa yn Abertawe o blaid streiciau – 71.6% o blaid – a mathau eraill o weithredu diwydiannol – 76.9% o blaid.

Canran yr aelodau a bleidleisiodd oedd 50.3%.

Dywed yr undeb mai’r swyddfa yn Abertawe ddioddefodd yr achos gwaethaf o Covid yn y gweithle yn y Deyrnas Unedig gyfan – ond mae dros 2,000 o staff wedi gorfod parhau i fynd i mewn i’r gweithle bob dydd.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS, Mark Serwotka: “Mae’r canlyniad hwn yn gondemniad o reolwyr y DVLA yn eu methiant llwyr i gadw staff yn ddiogel.

“Mae ein haelodau wedi anfon neges glir nad ydyn nhw’n ddiogel yn eu gweithle.

“Nid yw cryfder y teimladau ymhlith y staff yn syndod, o ystyried bod y rheolwyr diystyrru diogelwch eu gweithwyr yn llwyr.

“Mae ein haelodau wedi cael eu gorfodi i’r sefyllfa hon a bydd gweithredu diwydiannol yn digwydd oni bai bod y rheolwyr yn gweithredu’r holl newidiadau angenrheidiol i sicrhau bod staff yn ddiogel yn y gwaith, a hynny ar unwaith.”

Bydd yr undeb yn ceisio cwrdd â’r rheolwyr cyn penderfynu ar ei cham nesaf.

Dywedodd PCS ei bod am weld y niferoedd ar y safle yn gostwng o filoedd i gannoedd, ac am i’r DVLA sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn cael eu hanfon adref, naill ai i weithio gartref neu drwy gael absenoldeb arbennig â thâl.

“Gwasanaethau hanfodol”

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA eu bod “wedi dilyn a chyflwyno canllawiau Llywodraeth Cymru bob cam o’r ffordd yn ystod y pandemig, gan weithio’n barhaus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd yr Amgylchedd a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe er mwyn cyflwyno mesurau diogelwch eang.

“Mae hyn wedi galluogi staff y DVLA i barhau i gyflwyno gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd ar draws y Deyrnas Unedig mewn modd diogel.”

Ychwanegodd y bydd unrhyw weithredu diwydiannol yn debygol o gael effaith andwyol ar yrwyr a bod achosion o Covid-19 ymhlith staff “yn parhau’n isel, ac ar hyn o bryd dim ond pum achos positif sydd, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gartref, mewn gweithlu o 6,000.”