Dros y tair blynedd diwethaf mae’r premiwm ail gartrefi wedi caniatáu i Gyngor Gwynedd ddod â 183 yno dai yn ôl i ddefnydd.
Trwy grantiau o ganlyniad i’r premiwm treth o 50% ar ail gartrefi, buddsoddwyd bron i £3.5 miliwn yn y prosiect.
O fis Ebrill bydd y premiwm ar ail gartrefi yn cynyddu i 100%.
‘Allan o reolaeth’
Mae 8% o stoc tai yng Ngwynedd bellach yn ail gartrefi ac yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, mae’r farchnad dai “wedi mynd allan o reolaeth” dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae tai yn gwerthu’n fuan iawn ar ôl iddynt fynd ar y farchnad, yn aml yn cael eu prynu ag arian parod,” meddai.
“Mae’n amlwg bod nifer fawr yn cael eu prynu fel ail gartrefi, llefydd i bobol ddianc o ardaloedd poblog ac ymweld â nhw yn achlysurol yn ystod y flwyddyn.
“Mae’n bwysig hefyd ein bod yn sicrhau bod tai gweigion o fewn y sir yn dod yn ôl i ddefnydd pobl ifanc a theuluoedd.
“Ar hyn o bryd, mae 1,130 o eiddo gwag hirdymor yng Ngwynedd tra bod yr angen am dai yng Ngwynedd yn aruthrol – mae 2700 o bobl yn aros ar restr tai cymdeithasol y Cyngor.
“Mae’r ffactorau gyda’i gilydd yn atal pobl ifanc rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo neu i rentu tai o safon.”
Tŷ cyntaf
Dau sydd newydd fentro ar yr ‘ysgol eiddo’ yw Elliw Geraint Hughes a Cai Llywelyn Gruffydd o Arfon.
Buodd y ddau yn chwilio am dŷ am dros ddwy flynedd cyn prynu’r tŷ yn ardal Twthill, Caerarfon, cyn y Nadolig.
“Eiddo gwag oedd y tŷ rydyn ni wedi ei brynu,” meddai Elliw, sy’n gweithio fel Therapydd Galwedigaethol.
“Buon ni’n chwilio am dŷ ers dwy flynedd a’r penderfyniad wnaethon ni, oedd mai tŷ fyddai angen gwaith arno, fyddai’n ein siwtio ni orau.
“O glywed am drafodaethau Cyngor Gwynedd yn ddiweddar, mi fyddwn ni’n sicr o ymchwilio i unrhyw gefnogaeth grantiau neu fenthyciadau fydd ar gael i ni, wrth i ni weithio ar ein cartref cyntaf.
“Bydd pob ceiniog o gefnogaeth o gymorth i ni, wrthi i ni wreiddio yng Nghaernarfon a pharhau i fyw a gweithio yn y sir lle’n magwyd ni’n dau.”