Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i ddarparu trywydd allan o’r cyfyngiadau clo.
Dyna oedd gan Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i’w ddweud ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi’r camau cyntaf tuag at lacio’r cyfyngiadau.
O yfory (dydd Sadwrn, 13 Mawrth) ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi.
Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis, a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau – ar gyfer un ymwelydd dynodedig.
O ddydd Llun (Mawrth 15) ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion ysgol uwchradd sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd i’r dosbarth.
Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn ailagor ar gyfer apwyntiadau o ddydd Llun ymlaen.
Galw am “gysoni â Lloegr”
Wrth ymateb i gyhoeddiad Mark Drakeford, dywedodd Andrew RT Davies: “Rydym yn aros am y manylion llawn, ond mae’n ymddangos bod Llafur wedi colli cyfle arall i roi eglurder trywydd manwl allan o’r cyfyngiadau symud i bobl ledled Cymru.
“Bydd tro pedol Llafur ar agor manwerthu nad yw’n hanfodol ar fyr rybudd yn ergyd drom i lawer o fusnesau, ac mae’r penderfyniad i beidio cysoni â Lloegr yn yr ardal honno yn dangos y gallem fod wedi mabwysiadu trywydd tebyg wythnosau’n ôl.
“Bydd y gwrthod parhaus gan weinidogion Llafur i wneud hynny ond yn cynyddu rhwystredigaeth yn y sectorau sy’n cael eu taro waethaf gan y pandemig a bydd yn peryglu mwy o swyddi yng Nghymru.
“Yn anffodus, mae’r manylion yn adlewyrchu llywodraeth Lafur sydd ddim yn ymddiried ym mhobl Cymru ac sy’n credu: ‘os rhowch chi rywfaint o raff iddyn nhw, byddan nhw’n manteisio i’r eithaf’.
“Mae angen i weinidogion Llafur ddechrau ein trin fel oedolion, cael gwared ar y gemau gwleidyddol, a darparu llwybr clir a thrywydd ymlaen.”
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn cytuno
Mae Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru, wedi ategu’r feirniadaeth o ran manwerthu.
Dywedodd Mr Price fod manwerthwyr sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol wedi cael “arwydd cryf bod ailagor canol mis ar y gweill” a bod y “cyhoeddiad diweddaraf hwn, am lacio cyfyngiadau mwy cyfyngedig na’r disgwyl” wedi siomi cwmnïau.
Er iddo ddweud bod y Llywodraeth wedi ymgysylltu’n gadarnhaol â’r diwydiant, dywedodd Mr Price hefyd fod y “newid meddwl hwyr yn ein hatgoffa o’r angen am dryloywder ynghylch gwneud penderfyniadau”, gan ddweud bod data ar drosglwyddiadau a brechu “wedi bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir ers peth amser”.