Mae plastrwr yn Swydd Derby yn cynnig ei gwasanaethau am ddim i ddioddefwyr trais domestig.

Hefyd mae Naima Ben-Moussa wedi lansio ymgyrch i godi arian ar-lein er mwyn talu am y deunyddiau, ac i helpu eraill i “ailadeiladu” eu bywydau.

Fe gafodd Naima Ben-Moussa, sy’n 36 oed, ei cham-drin yn blentyn ac mae yn dweud ei bod yn “deall” yr hyn mae’r merched wedi’i ddioddef.

“Rwyf wedi gorfod trio cario ymlaen, a dw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi llwyddo oni bai am y gefnogaeth o’m cwmpas,” meddai.

Pobol yn “fwy ynysig fyth”

“Mae pobol yn teimlo’n fwy ynysig fyth yn ystod y pandemig, ac mae’n rhaid i ni drïo cyd-sefyll a helpu ein gilydd,” meddai Naima Ben-Moussa.

“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd fforddio costau byw ar y funud, heb sôn am drwsio llefydd gafodd eu dinistrio yn sgil perthynas aeth o chwith, neu berthynas dreisgar.”

Hyd yn hyn, mae hi wedi codi mwy na £500, ac wedi helpu i adnewyddu nifer o ystafelloedd oedd yn “llanast”.

Cafodd ei hysbrydoli i ddechrau ei hymgyrch ar ôl helpu i adnewyddu cartref dynes oedd newydd adael perthynas dreisgar.

“Cerddais i mewn i’w chartref a gweld y llanast oedd y dyn wedi’i adael ar ei ôl. Bu’n dioddef ymosodiadau erchyll ers deng mlynedd,” meddai Naima Ben-Moussa.

“Pan safodd hi o fy mlaen i, gwelais ei chryfder. Mae hi’n oroeswraig.”

Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at brynu deunyddiau adeiladu, a thalu gweithwyr eraill os oes angen.

Ac mi fydd Naima Ben-Moussa, sy’n rhedeg gwasanaeth plastro ei hun, yn gweithio am ddim am ddeuddydd yr wythnos i gyflawni’r gwaith.

Mae pwysau’r pandemig wedi dwysáu peryglon trais domestig, gyda’r nifer mwyaf erioed o achosion yn mynd o flaen llysoedd teulu.

Roedd un ym mhob pum trosedd a gafodd eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn ystod, ac yn syth ar ôl, y cyfnod clo yn ymwneud â thrais domestig yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol – cyfanswm o fwy na chwarter miliwn o droseddau.