Mae uned brofi covid symudol wedi ei sefydlu ym Merthyr Tudful wedi i 32 o bobol brofi’n bositif am yr haint yn yr wythnosau diwethaf.

Mae’r achosion hyn yn cael eu galw yn “glwstwr arwyddocaol o Covid-19” gan Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.

Mae’r cyngor yn ceisio olrhain ac adnabod y rhai fu mewn cyswllt gyda’r bobol sydd wedi dal covid, ac maen nhw wedi sefydlu’r uned symudol sy’n cynnig profion cyflym i bobol mewn ceir.

Dengys ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru bod gan Ferthyr y gyfradd uchaf o achosion positif yng Nghymru, sef 94.5 achos am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Merthyr oedd y dref gyntaf yng Nghymru i fynd ati i brofi yn eang am gorona.