Mae plismon sy’n gweithio i Heddlu Llundain wedi cael ei gyhuddo o gipio a llofruddio Sarah Everard.

Ymunodd Wayne Couzens, 48, â’r llu yn 2018.

Bydd e’n mynd gerbron ynadon heddiw i wynebu’r cyhuddiadau ar ôl cael ei gyhuddo neithiwr (nos Wener, Mawrth 12).Aeth Sarah Everard ar goll wrth gerdded adref o fflat ei ffrind yn ne Llundain ar Fawrth 3.Yn ôl adroddiadau, mae Couzens wedi’i gludo i’r ysbyty ddwywaith ers i’r heddlu ei arestio i gael triniaeth am anafiadau i’w ben a ddioddefodd yn y ddalfa.

Mae’r heddlu wedi talu teyrnged i “nerth” teulu Sarah Everard.

Cafodd ei arestio ddydd Mawrth yng Nghaint, wrth i’r heddlu ddisgrifio’r datblygiad fel un “syfrdanol”.

Mae lle i gredu bod Sarah Everard wedi cerdded trwy Clapham Common ar ei ffordd adref i Brixton, sy’n daith o ryw 50 munud.

Ond cafwyd hyd i’w chorff mewn ardal goediog yn Ashford yng Nghaint ddydd Mercher (Mawrth 10).

Ymchwiliad

Mae Heddlu Scotland Yard yn destun ymchwiliad yn dilyn honiadau bod Wayne Couzens wedi dinoethi ei hun rai dyddiau cyn diflaniad Sarah Everard.

Mae lle i gredu ei fod e wedi dinoethi ei hun ddwywaith mewn bwyty yn ne Llundain.

Bydd yr ymchwiliad yn ceisio penderfynu a wnaeth yr heddlu ymateb yn briodol i’r honiadau.

Bu timau fforensig yr heddlu’n chwilio ardal ger cartref Couzens wrth i eraill chwilio garej yn ardal Dover mae ei deulu’n berchen arni.

Mae dynes yn ei 30au a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tan fis Ebrill.

Pwy yw Wayne Couzens?

Fe fu Wayne Couzens yn gweithio’n fwyaf diweddar yn adran warchodaeth seneddol a diplomyddol y Gwnstabliaeth, uned sy’n gyfrifol am warchod ystâd San Steffan, sy’n cynnwys Downing Street a Phalas Westminster, yn ogystal â sawl llysgenhadaeth.

Yn ôl yr heddlu, doedd e ddim ar ddyletswydd pan ddiflannodd Sarah Everard, swyddog marchnata 33 oed.

Mae Couzens yn byw yn Deal yng Nghaint gyda’i wraig a’u dau o blant ac mae lle i gredu ei fod e’n gweithio mewn garej yn Dover yn y gorffennol, cwmni teuluol yr oedd ei frawd yn gweithio iddo cyn iddo yntau hefyd ymuno â’r heddlu.

Roedd Couzens hefyd yn aelod o’r lluoedd arfog am ddwy flynedd o 2002.