Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau peilot i gyflymu’r defnydd o feics trydan a beics cargo trydan yng Nghymru.
Yn ôl Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, mae’r penderfyniad yn rhan o ymdrechion i sicrhau newid yn y ffordd mae pobol yn teithio yng Nghymru, gan greu rhwydwaith drafnidiaeth wyrddach a mwy cyfleus.
Dangosa enghreifftiau rhyngwladol fod e-feics yn ddewis ymarferol yn lle ceir i rai pobol, ac mae’r cynlluniau yn ychwanegu at amryw o bolisïau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thagfeydd a chael pobol i fod yn fwy egnïol.
Bydd y cynlluniau peilot yn golygu bod pedair canolfan e-feics yn cael eu sefydlu yn y Rhyl, Abertawe, Aberystwyth (gyda chysylltiadau â’r Drenewydd), a’r Barri.
Bydd posib llogi e-feics am gost isel, neu eu benthyg yn yr hirdymor.
Bydd dwy ‘lyfrgell’ feics e-Cargo yn cael eu sefydlu yn Aberystwyth ac Abertawe, gan gynnig treialon am ddim, a chyngor a hyfforddiant i fusnesau a thrigolion lleol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan feics e-Cargo y potensial i leihau nifer y faniau sydd ar y ffyrdd, a chael eu defnyddio ar gyfer dosbarthu ar filltir olaf siwrnai.
Bydd y cynlluniau ar agor i’r cyhoedd a busnesau yn ystod yr haf, a byddan nhw’n rhedeg am ddwy flynedd.
“Gofyn am newid diwylliant”
“Rydyn ni eisiau rhoi mwy o ddewisiadau i bobol ynghylch sut i deithio o gwmpas, ac yn arbennig rydyn ni eisiau gwneud mathau gwyrddach o drafnidiaeth yn fwy cyfleus a hygyrch,” meddai Lee Waters.
“Mae teithio cynaliadwy yn gofyn am newid diwylliant ac mae’r cynlluniau peilot yn gam arall tuag at gyflawni ein nod.
“Mae cysylltiad cryf rhwng e-feics a theithio llesol wrth i fwy o bobol ddod i arfer â bod ar feics. Mae manteision penodol hefyd mewn cymunedau gwledig lle mae mwy o bellter [rhwng llefydd] yn fwy cyffredin, gydag e-feics yn gwneud beicio’n ymarferol i fwy o bobol.
“Bydd y cynlluniau peilot hyn yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth a llywio polisi, gyda’r bwriad o’u cyflwyno’n ehangach yn y dyfodol.”