Bydd ffordd feics dros dro newydd yn agor yng Nghaerdydd ddydd Llun (Mawrth 15), ac yn ymestyn o Heol y Gadeirlan i Blas Dumfries.

Mae’r llwybr newydd yn rhan o ffordd feics traws-ddinas, a fydd yn ymestyn i ddiwedd Stryd Wellington i’r gorllewin, ac i’r gyffordd â Heol Lydan ar Heol Casnewydd i’r dwyrain, yn y pen draw.

Fe gafodd ei hadeiladu fel ei bod yn gwahanu’r beicwyr oddi wrth ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Pan fydd y cynllun parhaol yn cael ei weithredu, bydd yn golygu bod y ffordd gyfan wedi ei hailgynllunio gan ddefnyddio cyrbiau parhaol i wahanu’r llwybr beicio, a bydd palmentydd yn cael eu lledu ar gyfer cerddwyr.

Mae’r llwybr newydd hwn yn defnyddio signalau traffig ar wahân ar bob un o’r cyffyrdd i feicwyr eu defnyddio.

Bydd modurwyr a cherddwyr yn dilyn goleuadau traffig gwahanol.

Ac fe fydd staff Cyngor Caerdydd ar y stryd i gynorthwyo’r cyhoedd pan fydd y ffordd feics ar agor.

Sirchau mai Caerdydd yw’r “ddinas feicio orau”

“Rydym am sicrhau mai Caerdydd yw’r ddinas feicio orau yn y Deyrnas Gyfunol ac rydym yn bwriadu adeiladu rhwydwaith feicffyrdd integredig o ganol y ddinas sy’n cysylltu safleoedd strategol a chymdogaethau,” meddai’r Cynghorydd Caro Wild, sy’n Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.

“Ar y cyfan, bydd y llwybrau newydd yn cael eu gwahanu oddi wrth draffig arall ar y ffordd, gan wneud beicio’n fwy diogel, yn haws ac yn brofiad llawer gwell. Rydyn ni eisiau beicio i ddod yn opsiwn mwy deniadol i breswylwyr, teuluoedd ac ymwelwyr, gan roi cyfle i bobol fwynhau’r holl fanteision iechyd a ffitrwydd y gall eu cynnig.

“Gyda’r cyfyngiadau ar waith oherwydd y pandemig parhaus, a gweithgareddau chwaraeon a champfeydd ar gau ar hyn o bryd, mae trigolion ar draws y ddinas eisoes yn dewis cerdded a beicio fel rhan o’u hymarfer corff bob dydd,” eglura Caro Wild.

“Mae awydd gwirioneddol am well seilwaith beicio felly rydym yn cyflwyno ein cynlluniau i ddatblygu llwybrau beicio i helpu pobl i symud o amgylch y ddinas wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.”

Mae pob cynllun ffordd feics yng Nghaerdydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, ac aeth llwybr Heol y Gadeirlan i Blas Dumfries drwy ymgynghoriad cyhoeddus fis Chwefror y llynedd.

Mae’r cynllun yn rhan o Bapur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor, sy’n nodi gweledigaeth drafnidiaeth y ddinas ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Ers yr ymgynghoriad cychwynnol hwnnw, mae ymgysylltu wedi parhau’n rhan o Gynllun Adfer COVID y Cyngor, ac fel rhan o’r ymgynghoriad ar ddyluniad manwl y cynllun parhaol.