Mae pobol yn cael eu hannog i ddod ynghyd am 1.13yp heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13) i ddangos eu cefnogaeth i’r egwyddor o addysg ddwyieithog yn Llydaw.
Daeth rhieni dros addysg ddwyieithog (Div Yezh Breizh), rhwydwaith ysgolion Llydaweg (DIWAN), cymdeithas athrawon Llydaweg (Kelennomp) a sawl undeb athrawon arall ynghyd yr wythnos ddiwethaf i drafod y rhwystrau i addysg ddwyieithog mewn ysgolion uwchradd.
Maen nhw’n gofidio am y diffyg adnoddau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer addysg ddwyieithog a’r ffaith nad yw Llydaweg yn orfodol yn system addysg Ffrainc.
Mae ymgyrchwyr am weld Confensiwn Gwladwriaeth-Ranbarth yn cael ei weithredu fel bod y Llydaweg yn dod yn rhan bwysig o fywyd bob dydd ac er mwyn sicrhau arian i gynnal yr iaith am bum mlynedd.
Maen nhw’n dweud y byddai methu â gweithredu’r Confensiwn hwn yn arwain at ganlyniadau “difrifol” i’r iaith.
Dim ond trwy gytundeb rhwng y Wladwriaeth Ffrengig a Chynghorau Rhanbarthol mae modd sicrhau athrawon ac adnoddau Llydaweg ac felly, mae’r Confensiwn yn hanfodol er mwyn cryfhau sefyllfa’r iaith.
Mae’r Confensiwn hefyd yn mynd i’r afael â’r defnydd o Lydaweg yn y cyfryngau, y byd cerddoriaeth a’r diwylliant ehangach.
Er i Lywodraeth Ffrainc ymrwymo ar Chwefror 9 i gydnabod rhai o hawliau’r Llydaweg, does dim cytundeb ffurfiol o hyd.
Mae ymgyrchwyr bellach yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc i ddeddfu ar ieithoedd rhanbarthol yn unol â deddfwriaeth a gafodd ei chyflwyno gan yr aelod seneddol Paul Molac fis Ebrill.
Datganiad
“Mae cymdeithasau rhieni dros addysg ddwyieithog a’r sefydliadau diwylliannol Llydaweg yn unedig yn eu cais i gyflawni a sicrhau Confensiwn uchelgeisiol gyda’r wladwriaeth cyn yr etholiadau rhanbarthol nesaf ym mis Mehefin,” meddai’r ymgyrchwyr mewn datganiad.
“Rydym yn gofyn am derfyn ar y diffyg cytundeb a gafodd ei grybwyll gan Lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw yn ystod trafodaethau â Gweinyddiaeth Addysg Ffrainc.
“Rydym felly yn galw ar bawb y mae’r iaith Lydaweg a’i diwylliant yn annwyl iddyn nhw i brotestio yn Quimper ar ddydd Sadwrn, 13 Mawrth am 13:13.”