Mae Heddlu’r De yn gofyn i bobol barhau i fod yn gyfrifol ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi cynlluniau i lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Bydd neges Llywodraeth Cymru i bobol aros gartref yn cael ei newid i aros yn lleol.

O heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13), bydd pedwar o bobol o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys gerddi preifat.

Bydd rhai cyfleusterau chwaraeon yn cael ailagor a bydd y cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal hefyd yn cael eu llacio.

Wrth i rai cyfyngiadau aros, bydd yr heddlu ar eu gwyliadwraeth rhag ofn i bobol eu torri ac yn gweithredu pe bai perygl i iechyd y cyhoedd, gan gynnwys atal partïon mawr.

Ymateb

“Dw i’n gwybod y bydd yr adolygiad heddiw o’r cyfyngiadau’n newyddion i’w groesawu i nifer,” meddai’r Ditectif Ringyll Andy Valentine.

“Bu’n flwyddyn heriol i ni i gyd ac rydyn ni i gyd eisiau gweld terfyn ar y cyfyngiadau sydd wedi cael y fath effaith ar ein bywydau ni i gyd.

“Ond fel mae’r prif weinidog wedi egluro, mae perygl Covid-19 yn dal yn bresennol.

“Gallai trydedd ton ddigwydd pe baen ni’n colli rheolaeth ar y feirws, yn enwedig gyda’r amrywiolion pryderus yn dod i’r fei.

“Gofynnaf i’r cyhoedd ystyried y newidiadau hyn i’r cyfyngiadau mewn modd cyfrifol a gofalus, a pheidio â mentro dadwneud y cyfan sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

“Bydd ein swyddogion yn parhau i fod allan yn ein cymunedau, yn ymgysylltu â’r cyhoedd i sicrhau bod y newidiadau diweddaraf hyn yn cael eu deall, ac yn annog pobol i wneud y peth iawn.

“Lle bo angen, byddwn ni’n parhau i weithredu i orfodi a chydweithio â’n partneriaid, yn enwedig yr awdurdodau lleol, i fynd i’r afael ag achosion bwriadol ac mlwg o dorri’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus.

“Fodd bynnag, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd cyfrifoldeb personol hyd yn oed yn bwysicach wrth ddod â’r pandemig i ben.

“Mae plismona COVID-19 wedi bod yn un o’r gweithrediadau mwyaf heriol yn hanes y llu a hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi gwneud aberth yn ystod y pandemig ac wedi cydymffurfio â’r cyfyngiadau.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor bwysig i bawb sy’n gwasanaethu Heddlu’r De ac rydym yn ddiolchgar iawn.

“Rydym yn parhau’n ymroddedig i chwarae ein rhan wrth helpu i gadw pobol yn ddiogel rhag y feirws yma a gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn parhau i’n helpu ni drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru.”