Fydd Nick Ramsay ddim yn brwydro am sedd Mynwy yn y Senedd eto yn dilyn cyfarfod o gangen leol y Ceidwadwyr.

Roedd disgwyl iddo wynebu’r gangen leol mewn cyfarfod neithiwr (nos Wener, Mawrth 12).

Ond yn ôl adroddiadau, fe wnaeth e dynnu’n ôl o’r cyfarfod i ddewis ymgeisydd yn dilyn penderfyniad i ailagor y broses.

Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, sydd wedi’i ddewis i frwydro am y sedd ar ôl curo Carolyn Webster, ymgeisydd Gorllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 2019.

Bydd e’n herio Hugh Kocan (Plaid Cymru), Jo Watkins (Democratiaid Rhyddfrydol) a Catrin Maby (Llafur) ar Fai 6.

Fe fu Nick Ramsay yn cynrychioli’r etholaeth yn y Senedd ers 2007.

 

Barnwr yn gorchymyn bod Nick Ramsay yn cael dychwelyd i grŵp y Torïaid

Aelod Cynulliad Mynwy yn siwio arweinydd ei blaid ei hun

Gwahardd Nick Ramsay o grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr

Daw hyn yn sgil “digwyddiad” dydd Mercher, Ionawr 1