Mae’r Local Democracy Reporting Service yn adrodd am bryderon nad yw’r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo i’r genhedlaeth oedran cyn ysgol ar bron i chwarter o aelwydydd Ynys Môn lle mae’r ddau riant yn medru’r iaith.

Mae adroddiad Menter Môn yn dangos mai oddeutu traean yn unig sy’n trosglwyddo’r iaith pan mai un rhiant yn unig sy’n medru’r Gymraeg, ac yn tynnu sylw at effaith mewnfudwyr ar yr iaith.

Roedd canran y bobol sy’n medru’r Gymraeg ar yr ynys wedi gostwng o fwy nag 80% yn 1951 i 57.2% yn 2011 ond y gobaith yw codi’r ffigwr hwnnw eto i fwy na 60% erbyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad nesaf eleni.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi:

  • bod 78% o Gymry ar yr ynys yn medru’r Gymraeg, a 11% yn rhagor yn ei deall.
  • bod mudo i mewn ac allan yn arwain at fwy o Seisnigrwydd ar yr ynys
  • bod llai na hanner y bobol dros 50 oed ar yr ynys yn siarad Cymraeg – a 40% ohonyn nhw wedi’u geni y tu allan i Gymru mewn sawl ardal
  • mai Cymraeg yw iaith addysg y rhan fwyaf o blant (86.8%), ond dim ond 49.1% sy’n siarad Cymraeg yn rheolaidd ar yr aelwyd

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod llai o Gymraeg i’w chlywed wrth i boblogaeth yr ynys dyfu, ond fod yr iaith yn llwyddo i ddal ei thir serch hynny.

Ond mae’n rhybuddio y gallai cynnydd parhaus yn y boblogaeth fod yn “fygythiad go iawn” i’r Gymraeg mewn sawl ardal ar yr ynys.

Ymhlith y ffactorau eraill sy’n cael effaith negyddol ar y Gymraeg mae cyfyngiadau’r coronafeirws sy’n atal pobol rhag cymdeithasu, diffyg integreiddio gan bobol ddi-Gymraeg a’r farchnad dai yn prisio llawer o bobol allan.

Mae gor-ddibynnu ar y sector cyhoeddus am waith hefyd yn cael effaith negyddol, yn ogystal â diffyg cyfleoedd am waith mewn sawl ardal.

Serch hynny, mae mwy yn mynd ati i ddysgu Cymraeg ar-lein ac mae’r awdurdod lleol yn cael dylanwad positif drwy annog y defnydd o’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

Ond mae Llywodraeth Cymru am ganolbwyntio ar blant oedran cyn ysgol, gyda dim ond 38.1% o blant tair oed a 57.8% o blant pedair oed sydd ag un rhiant yn siarad Cymraeg yn ei siarad hi ar yr aelwyd,

Mae’r ffigurau hyn yn codi i 76.7% ac 84.2% lle mae’r ddau riant yn siarad Cymraeg.

Ymateb

Wrth ymateb, dywed Cyngor Môn eu bod nhw’n awyddus i sicrhau bod plant yn medru’r Gymraeg a Saesneg yn hyderus.

“Mae trosglwyddo’r iaith yn y cartref yn rhan hanfodol o’r broses hon, gan alluogi pob plentyn i fod yn aelod llawn o’n cymdeithas ddwyieithog, gan ennyn balchder yn eu hiaith a’u diwylliant,” meddai Rhys Hughes, Cyfarwyddwr Addysg y Cyngor.

“Rydym yn cydweithio â phartneriaid rhanbarthol a lleol megis GwE, Menter Iaith, y Siartr Iaith, Prifysgol Bangor, Fforwm Iaith Môn ac eraill i ddatblygu disgyblion dwyieithog hyderus yn yr holl ysgolion cynradd ac uwchradd.

“Hoffwn ategu neges Menter Môn ac eraill i annog rhieni yn y broses o drosglwyddo’r iaith i’w plant.”

Mae modd gweld yr adroddiad isod:

Menter Iaith Môn