Mae’r plismon sydd wedi’i gyhuddo o gipio a llofruddio Sarah Everard wedi’i gadw yn y ddalfa cyn iddo fynd gerbron Llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Mawrth (Mawrth 16).
Aeth Wayne Couzens, 48, gerbron ynadon Westminster fore heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13) i wynebu’r cyhuddiadau.
Aeth y gweithiwr marchnata 33 oed ar goll wrth gerdded adref o gartref ei ffrind yn ne Llundain ar Fawrth 3, a chafwyd hyd i’w chorff mewn ardal goediog yn Ashford yng Nghaint ddydd Mercher (Mawrth 10).
Cafodd Couzens ei arestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o’i chipio, ac eto ar amheuaeth o’i llofruddio.
Ar ddiwedd y gwrandawiad heddiw, cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad ddydd Mawrth.
Doedd Couzens ddim ar ddyletswydd adeg diflaniad Sarah Everard.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty ddwywaith yr wythnos hon am driniaeth ar gyfer anafiadau i’w ben a ddioddefodd e yn y ddalfa tra ei fod e ar ei ben ei hun mewn cell.