Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi annog darparwyr gwyliau yng Nghymru i wrthod rhoi llety i unrhyw un o’r tu allan i’r wlad.

Bydd y rheolau’n cael eu llacio ar Fawrth 27 fel bod y diwydiant twristiaeth a gwyliau’n cael ailagor ar gyfer llety hunangynhaliol, ond dim ond i bobol o’r un aelwyd.

Ond dywed Mark Drakeford y byddai’r rheolau’n cael eu tynhau eto pe bai unrhyw un yn eu torri drwy dderbyn pobol o’r tu allan i’r wlad am wyliau.

Mae Cymru bellach wedi symud o neges i “aros gartref” i “aros yn lleol” am bythefnos cyn bod y rheolau’n cael eu llacio ymhellach ar gyfer gwyliau’r Pasg.

Ond dim ond pobol yng Nghymru fydd yn cael mynd ar wyliau o fewn y wlad.

Ar hyn o bryd yn Lloegr, fydd neb yn cael mynd ar wyliau o’r wlad honno tan o leiaf Ebrill 12.

‘Manteisio ar lety yng Nghymru’

“Ddylai pobol sy’n cynnig llety ddim derbyn archebion gan bobol sy’n byw y tu allan i Gymru,” meddai Mark Drakeford wrth y Press Association.

“Bydd Lloegr yn dal mewn sefyllfa lle mae eu rheolau’n dweud i deithio cyn lleied â phosib, dim gwyliau, dim aros oddi cartref dros nos.

“Ac mae hynny’n golygu na fyddan nhw’n gallu manteisio ar lety yng Nghymru.

“All y Llywodraeth ddim ond parhau ar y sail y bydd y gyfraith yn cael ei pharchu a mater i awdurdodau Seisnig yw gweithredu’r rheoliadau Seisnig.

“Byddwn ni’n siarad â’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a’r heddlu yr wythnos nesaf, dim ond i weld a oes yna rywbeth mae angen i ni ei wneud i weithredu i roi ein hawdurdodau gorfodi ar waith.

“Pe bai’r diwydiant yn ymddwyn yn anghyfrifol, y gosb fyddai na fydai modd i ni barhau i ailagor y diwydiant.

“Dw i’n gwybod fod yna ddihirod mewn unrhyw ran o fywyd.

“Ond dw i’n credu y bydd y diwydiant yn sicr yn cydnabod ein bod ni am fynd y tu hwnt i lety hunangynhaliol.

“Rydyn ni eisiau i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru gael tymor hirach a gwell eleni nag y gwnaethon ni lwyddo i’w gael y llynedd.

“Fyddwn ni ddim yn gallu gwneud hynny pe bai pobol yn tanseilio’r cytundeb sydd gennym ynghylch sut i barhau ar y cam cyntaf hwnnw.”