Mae’r Aelod Cynulliad, Nick Ramsay, wedi cael ei arestio a’i wahardd o blaid y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae adroddiadau’n awgrymu ei fod wedi cael ei arestio nos Fercher yn dilyn “digwyddiad”.

Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad i Sir Fynwy yn 2007, ac ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.  

“Mae Nick Ramsay wedi cael ei wahardd o grŵp y Ceidwadwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn digwyddiad a ddigwyddodd ddoe,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd y gwaharddiad yn destun adolygiad yn sgil ystyriaeth gan asiantaethau allanol. Fyddwn ni ddim yn rhoi rhagor o sylw ar yr adeg yma.”