Mae trafodaethau i adfer y drefn o rannu pŵer yng Ngogledd Iwerddon yn mynd rhagddynt yn Belfast.

Daw’r ymdrech ddiweddaraf wedi i drafodaethau cyn y Nadolig fethu a dwyn ffrwyth, a daw hefyd yn sgil yr etholiad cyffredinol. 

Dychwelodd Julian Smith, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon; Simon Coveney, gweinidog materion tramor Iwerddon; a’r pleidiau lleol i Dŷ Stormont fore heddiw i drafod ymhellach.

Mae disgwyl i’r trafod barhau trwy gydol y dydd, ac mae gan y pleidiau tan Ionawr 13 i daro bargen. Os wnawn nhw fethu bydd yn rhaid galw etholiad Cynulliad. 

Cefndir yr anghydfod

Dan drefn Gogledd Iwerddon mae prif swyddi Stormont Gogledd Iwerddon gael eu rhannu rhwng unoliaethwyr a chenedlaetholwyr.

Ond tair blynedd yn ôl mi gamodd y Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuiness, o’r neilltu yn brotest i’r ffordd yr oedd y DUP wedi trin â rhaglen ynni gwyrdd. 

Ers hynny mae’r anghydfod wedi dwysáu, ac mae mater yr iaith Wyddeleg hefyd wedi troi’n dipyn o bwnc llosg.