Mae barnwr Uchel Lys wedi gorchymyn bod Nick Ramsay yn cael dychwelyd i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Cafodd Aelod Cynulliad Mynwy ei wahardd o’r grŵp ar ôl cael ei arestio yn ei dŷ yn Rhaglan ar Ionawr 1.

Ar y diwrnod canlynol fe gafodd ei ryddhau o’r ddalfa heb gyhuddiadau – ond mi arhosodd ei waharddiad o’r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad mewn grym.

Bellach mae Nick Ramsay yn siwio Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn yr Uchel Lys.

Mewn gwrandawiad ym Mryste dywedodd y barnwr, Jonathan Russen QC, y dylai ei waharddiad gael ei ddiddymu tan fod treial yn cael ei gynnal ym mis Chwefror.

“Siomedig”

“Dw i’n siomedig y bu’n rhaid i mi ddod i’r llys heddiw er mwyn gwireddu’r canlyniad yma,” meddai Nick Ramsay y tu allan i’r llys.

“Fodd bynnag, dw i’n ddiolchgar am y cyfle i barhau i wasanaethu pobol fy etholaeth ac i wireddu fy nyletswyddau cyhoeddus.”