Mae’r heddlu wedi cyhoeddi bod dros £50 miliwn o arian trethdalwyr wedi ei wario ar blismona protestiadau Gwrthryfel Difodiant ers 2019.

Fe wnaeth Rachel Williams, Cadlywydd yn yr Heddlu Metropolitan yn Llundain, gyfeirio at dri digwyddiad costus yn 2019 a 2020 lle bu ymgyrchwyr yn gwersylla ar strydoedd dros gyfnod o wythnosau.

Mae disgwyl i filiynau o bunnoedd gael ei wario eto ar blismona protestiadau dros yr wythnosau nesaf.

Bydd “miloedd” o ymgyrchwyr yn ymgynnull dros bythefnos yng nghanol Llundain o ddiwedd mis Awst i bwyso ar y Llywodraeth i gefnu ar fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.

Mae’r grŵp wedi codi £100,000 ar gyfer y protestiadau hynny, ac maen nhw’n ystyried ehangu digwyddiadau i ddinasoedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

“Aberthu amser i ffwrdd”

Dywedodd Rachel Williams bod y gost o blismona digwyddiadau am godi i “filiynau” eto eleni.

“Roedd tri digwyddiad mawr y Gwrthryfel Difodiant wedi costio mwy na £50 miliwn i wasanaeth Heddlu’r Met,” meddai.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd costau plismona yn codi i filiynau eto eleni.

“Mae’n golygu bydd llawer o heddweision yn aberthu amser i ffwrdd i helpu i liniaru unrhyw aflonyddwch a dod â threfn a diogelwch i strydoedd Llundain.”