Mae adroddiad newydd yn dweud bod diffyg polisïau dau o gyrff diwylliannol Cymru i hybu amrywiaeth yn “ddigalon”.
Yn ôl yr adroddiad mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi bod yn “cynnal ideoleg goruchafiaeth wyn” drwy gyfyngu ar gyfleoedd unigolion a chymunedau du neu o liw nad ydyn nhw’n ddu.
Fe wnaeth y ddau gorff gomisiynu’r ymchwil gan Undeb Gwrth-hiliaeth Cymru, yn ogystal â dau adroddiad arall, er mwyn ehangu ymgysylltiad.
Mae’r sefydliadau wedi methu â mynd i’r afael â hiliaeth endemig wrth ddyrannu cyllid, meddai’r adroddiad, ac mae’r Undeb yn mynnu eu bod nhw’n gweithredu ar hyn.
Awgryma’r adroddiad y gallai eu polisïau iaith “eithrio” pobol ddu a phobol o liw nad ydyn nhw’n ddu hefyd.
Noda’r adroddiad fod y rhai gymerodd ran yn yr ymchwil wedi awgrymu y dylid “ymlacio’r pwyslais ar orfod siarad Cymraeg, a chynnig cyfleoedd i bobol ddysgu wrth weithio”.
Roedden nhw hefyd yn awgrymu y gellid rhannu swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg, er mwyn i berson du neu berson o liw sydd ddim yn medru’r Gymraeg, fedru gweithio ochr yn ochr â rhywun sydd yn siarad Cymraeg.
Fel rhan o’u hargymhellion, mae Undeb Gwrth-hiliaeth Cymru yn dweud y dylai artistiaid a gweithwyr celf ymylol dderbyn cymorth i ddysgu ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.
Tueddiadau
Yn ystod yr ymgynghori, daeth Undeb Gwrth-hiliaeth Cymru ar draws nifer o dueddiadau gwahanol, gan gynnwys hygyrchedd ceisiadau, effaith profiadau negyddol anghyfiawn, synnwyr o berthyn, a diffyg staff du neu o liw nad ydyn nhw’n ddu, a diffyg perthnasedd.
Roedd pob cyfrannwr yn cytuno fod cynyddu nifer y bobol ddu a phobol o liw nad ydyn nhw’n ddu sy’n gweithio i’r Cyngor Celfyddydau a’r Amgueddfa Genedlaethol, yn allweddol i wella perthnasedd a sicrhau fod ymgeiswyr a gweithwyr llawrydd yn cael cyfle tecach i gael cyfleoedd.
Pan ofynnwyd am atebion i’r broblem, nododd cyfranwyr bod y canlynol yn bwysig:
- Cynyddu niferoedd cyffredinol o fewn y sefydliadau, pennu cwotâu a chosbi’r rheini sy’n methu â’u cwrdd (sefydliadau portffolio);
- Ymlacio’r pwyslais ar fedru’r Gymraeg a rhoi cyfleoedd i ddysgu wrth weithio;
- Cynyddu nifer y bobl ddu a phobl groenliw nad ydynt yn ddu mewn adrannau Adnoddau Dynol (AD),
- Rhannu swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg er mwyn i berson du neu berson croenliw nad yw’n ddu (sydd ddim yn siarad Cymraeg) allu gweithio ochr yn ochr â rhywun sydd yn siarad Cymraeg.
“Dywedodd un cyfrannwr ei fod yn bwysig deall fod pobl ddu a phobl groenliw nad ydynt yn ddu sy’n ymgeisio am swydd (yn yr Amgueddfa) yn paratoi eu hunain i weithio mewn sefyllfa anghysurus,” meddai’r adroddiad.
“Mae’n bwysig pwysleisio bod pobl yn profi hiliaeth ym mhob agwedd ar eu bywyd ac wrth ddod at sefydliad, maen nhw’n dod â’u profiadau blaenorol sy’n gronnol ac yn ailadroddus gyda nhw.”
Egwyddorion
Wrth drafod egwyddorion yr Amgueddfa Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau, mae’r adroddiad yn nodi fod angen iddyn nhw dderbyn eu rôl ym mharhad y sefyllfa hiliol gyfredol er mwyn iddi newid.
“Ni all yr Amgueddfa na’r Cyngor dderbyn fod angen i’r sefyllfa hiliol gyfredol newid heb hefyd dderbyn eu rôl ym mharhad y sefyllfa honno.
“O ganlyniad, ni ellid ymddiried ynddynt i’n harwain allan o’r sefyllfa hon ac mae’n rhaid iddynt roi grym sylweddol i bobl ddu a phobl groenliw nad ydynt yn ddu.
“Tan nawr, mae effaith niweidiol canoli’r profiad gwyn fel y norm wedi cael ei adeiladu mewn i strwythurau nawdd, ond heb ei gydnabod, gan arwain pobl ddu a phobl groenliw nad ydynt yn ddu i orfod perfformio mewn ffordd sy’n cyfyngu ar eu potensial ac yn eu gwneud yn destun tocynistiaeth.
“Trwy gyfyngu’r cyfleoedd a gynigir i unigolion/cymunedau – boed y rheini yn gynulleidfaoedd, gweithwyr neu artistiaid – i rai sy’n canolbwyntio ar eu hil yn unig gan awgrymu mai dyna’r cyfan sydd ganddynt i’w gynnig (er na ddisgwylir yr un peth gan artistiaid gwyn), mae’r Amgueddfa a’r Cyngor wedi bod yn cynnal ideoleg goruchafiaeth wyn.
“Mae ein profiadau wedi cronni ar hyd oesau, felly rhaid i strategaethau sy’n mynd i’r afael â nhw hefyd estyn yn ôl ar hyd yr un llinellau.”
Galwadau
Ymysg galwadau’r Undeb yn ymwneud â chynrychiolaeth, maen nhw’n galw am recriwtio o leiaf tri aelod du i Fyrddau’r Amgueddfa a’r Cyngor, ac yn dweud y dylai gweithwyr celf dderbyn cymorth i ddysgu ieithoedd eraill, yn ogystal â’r Gymraeg.
“Dylai artistiaid a gweithwyr celf ymylol dderbyn cymorth i ddysgu ieithoedd eraill, yn ogystal â’r Gymraeg,” meddai’r adroddiad.
“Mae’r cymorth ychwanegol hwn yn angenrheidiol am fod polisïau iaith Gymraeg ceisiadau cyfredol yn gallu allgau pobl ddu a phobl groenliw nad ydynt yn ddu. Hefyd, gall cyfathrebu mewn nifer o ieithoedd (i adlewyrchu gwahanol gymunedau Cymru) alluogi pobl ddu a phobl groenliw nad ydynt yn ddu i ymgysylltu yn ehangach â gwahanol gynulleidfaoedd.”
“Ymgysylltu dyfnach”
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru eu bod nhw’n “croesawu’r canfyddiadau o fewn yr astudiaethau hyn”.
“Mae’r her ynghylch democratiaeth ddiwylliannol yn gyffredin i ni’n dau a’r themâu a’r materion yn yr adroddiadau yn mynnu ymateb gan y ddau ohonom,” meddai cadeiryddion y ddau sefydliad, Phil George, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru.
“Mae’n amlwg o’r adroddiadau hyn fod ymgysylltu dyfnach â chymunedau yn hanfodol.
“Mae’n rhaid i ni wrando a dysgu, gwerthfawrogi beth mae pobol yn ei werthfawrogi yn barod, a chymryd y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth gymryd rhan o ddifri.”
Dywedodd y ddau fod ganddyn nhw bartneriaethau ar y gweill a fydd yn ehangu’r ymgysylltu, ond bod “ffordd bell i fynd”.
“Mae Cymru yn dlotach oherwydd yr eithriadau a’r rhwystrau hyn, yn gwastraffu talent a photensial y rhai sy’n cael eu heithrio waethaf.
“Yn y diwedd, dyw hi ddim yn deg fod y gallu i gael mynediad wedi’i ddyrannu mor annheg.
“Mae profiadau a gweithgareddau diwylliannol [yn rhywbeth] i’r niferus nid yr ychydig. Rydyn ni’n dweud hynny, ond nawr mae hi’n amser i ni ddangos ein bod ni’n meddwl hynny.
“Mae’r agwedd sydd wedi’i chymryd gan y tri sefydliad wedi canolbwyntio ar gydweithio gyda chymunedau yn hytrach nag allosod cymuned, ac yn cynnig amrywiaeth o ganfyddiadau ac argymhellion pwysig.
“Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar y cyd gydag amserlen ar gyfer mynd â’r argymhellion yn eu blaen yn yr hydref.”
“Mwy o weithleoedd Cymraeg”
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod angen “mwy, nid llai, o weithleoedd cyfrwng Cymraeg”.
Ychwanegodd fod angen i sefydliadau ddod yn wrth-hiliol a gweithredu drwy’r Gymraeg, a bod hynny’n bosib.
“Dyma adroddiad pwysig ac mae’n amlwg bod hiliaeth yn broblem ar draws sefydliadau Cymru,” meddai Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Gobeithiwn weld Amgueddfa Cymru a Celf Cymru yn gwella mynediad a chynrychiolaeth i bobl groenliw. Rhaid bod sicrhau gwell mynediad i’r Gymraeg yn rhan o hyn.
“Mae arnom angen mwy, nid llai, o wasanaethau a gweithleoedd sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl yn cael eu cau allan o gyfleoedd i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg oherwydd rhwystrau economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys hiliaeth strwythurol.
“Nid yw’r Gymraeg yn iaith sy’n allgáu yn ei hanfod, ac nid yw gofynion ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg mewn swyddi ychwaith.
“Y strwythurau sy’n achosi problem – a dyna pam rydyn ni am sicrhau bod y rhwystrau strwythurol hynny yn cael eu dileu fel bod gan bawb fynediad i’r iaith.
“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i bawb; ymestyn y Safonau i greu’r hawl i bob gweithiwr ddysgu Cymraeg yn y gweithle; ac atodi amodau i grantiau cyhoeddus ar ymestyn yr iaith i grwpiau sydd wedi’u heithrio.
“Rhaid inni sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu trwy gyfrwng Cymraeg ac yn dod yn wirioneddol wrth-hiliol. Fe allwn, a dylem, wneud y ddau.”
Adroddiadau eraill
Roedd y ddau sefydliad wedi comisiynu ymchwil ynghylch pam nad yw pobol fyddar, pobol anabl, pobol ag anableddau dysgu, a phobol niwroamrywiol yn mynychu digwyddiadau celfyddydol neu’n ymweld ag Amgueddfa Cymru yn aml iawn, neu o gwbl, hefyd.
Dan arweiniad Richie Turner, daethon nhw i’r casgliad ei bod hi’n ymddangos fod y sector celfyddydau ar y blaen i’r sector treftadaeth ddiwylliannol, ond bod gan y ddau sector ffordd hir i fynd tan eu bod nhw’n cyrraedd y mwyafrif o bobol fyddar ac anabl yng Nghymru.
Dangosodd yr ymchwil fod y gwasanaethau cefnogaeth yn amrywio’n fawr rhwng sefydliadau celfyddydol, a phwysleisiodd bod rhaid i gefnogaeth hygyrchedd i bobol fyddar ac anabl ddod yn ‘norm’ yn ei holl ffurfiau.
“Mae’r bobl a’r cymunedau hyn eisiau ymgysylltu mwy a wir am weld newid, ond maent hefyd eisiau gweld – ac angen gweld – newidiadau sylweddol yn y blaenoriaethau polisi a gwariant, neu mae’n debygol na fydd eu hymatebion yn arwain at unrhyw newidiadau amlwg unwaith eto,” meddai’r adroddiad.
Roedd y trydydd adroddiad yn cynnwys cyfres o sgyrsiau â rhanddeiliaid ynghylch ehangu ymgysylltiad creadigol a diwylliannol gyda chymuned rhannol-wledig Penderyn, Aberdâr a Hirwaun yn y cymoedd.