Mae’r Cyngor Celfyddydau yn chwilio am Gyfarwyddwr fydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg o fewn y sefydliad, ond fydd dim rheidrwydd ar y swyddog hwnnw i fedru siarad yr iaith.
‘Dymunol’ yw’r gallu i fedru siarad Cymraeg ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, sydd yn talu cyflog rhwng £59,269 – £75,477.
Dywed y Cyngor Celfyddydau mewn swydd ddisgrifiad:
“Rydyn ni’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, felly mae rhuglder yn y Gymraeg (wrth ysgrifennu ac wrth siarad) yn ddymunol, er nad yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.”
Mae ymgyrchwyr iaith wedi disgrifio’r sefyllfa fel “dipyn o ffars” ac yn mynnu bod angen i Gyfarwyddwr sy’n gyfrifol am y Gymraeg fedru siarad yr iaith, neu fynd ati i’w dysgu yn dilyn penodiad.
Daw hyn gwta bythefnos ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod rhaid i’r rheiny sy’n ymgeisio am swyddi gyda nhw fod â gwybodaeth ‘lefel cwrteisi’ o’r Gymraeg.
Ymhlith y gofynion sy’n cael eu rhestru mae’r gallu i ynganu termau ac enwau drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfarch pobl yn ddwyieithog.
Briff i’r Ymgeiswyr
Mewn Briff i’r Ymgeiswyr ar gyfer rôl y Cyfarwyddwr newydd, dywed Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Rôl arwain allweddol yw hon sy’n cynnig cyfle pwysig i weithio ar y lefel uchaf o fewn un o sefydliadau elusennol mwyaf Cymru.”
A bydd y Gymraeg yn un o gyfrifoldebau corfforaethol y Cyfarwyddwr newydd sy’n “swyddog arweiniol y Cyngor wrth oruchwylio’r gweithgareddau a’r prosiectau” sydd yn ymwneud â’r iaith.
“Ffars”
Mae Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol yr Iaith, wedi disgrifio’r ffaith nad yw’n hanfodol i siarad yr iaith Gymraeg ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau fel “dipyn o ffars”.
Fodd bynnag, mae’n credu na ddylai’r cyngor wahaniaethu ar sail iaith ac yn dweud y dylai’r ymgeisydd llwyddiannus gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg os nad yw’n rhugl eisoes.
“Ar y wyneb, mae e’n dipyn o ffars,” meddai wrth golwg360.
“Ond wedi dweud hynny, dw i’n gwybod am lawer o rai di-Gymraeg a llawer o Loegr sydd wedi cael swyddi gyda gwahanol gyrff yng Nghymru ac wedi dysgu’r Gymraeg yn wych ac sydd â diddordeb mawr yn y Gymraeg… llawer iawn mwy o ddiddordeb na Chymry rhugl.
“Byddwn i’n dweud bod agwedd tuag at y Gymraeg yn mynd yn bell iawn, er bod y peth ar y wyneb yn ffars.
“Dyw e ddim yn ddigon da i ddweud bod gallu’r Gymraeg yn ddymunol, dylai ddweud ei fod yn hanfodol neu fod y person yn dysgu o fewn blwyddyn.
“Does dim eisiau gwahanu rhwng pobol ddi-Gymraeg a Chymraeg, ond mae angen gofyn iddyn nhw ddysgu.
“Dylai’r Gymraeg fod yn hanfodol, naill ai nawr neu eu bod nhw yn gallu ymdrin â’r iaith o fewn blwyddyn.”
‘Angen gweithio trwy’r Gymraeg’
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, wrth golwg360:
“A fyddai Cyngor y Celfyddydau, neu unrhyw sefydliad tebyg, yn nodi bod y Saesneg yn ddymunol?
“Os na, pam fod y Gymraeg yn ddymunol?
“Wrth benodi swyddog fydd mewn lle am rai blynyddoedd heb fod y Gymraeg yn ofynnol, mae Cyngor y Celfyddydau yn ei gwneud yn glir na fydd y Gymraeg yn hanfodol yn y dyfodol agos ac felly nad yw’n sefydliad Cymraeg, ac na fydd e.
“Mae Cyngor y Celfyddydau yn fudiad sy’n ymwneud â’r gymuned, sut allan nhw wneud hynny heblaw eu bod yn sefydliad sy’n gallu gweithio trwy’r Gymraeg?
“A sut mae hyn yn ffitio gyda nod y Llywodraeth o greu miliwn siaradwyr erbyn 2050?
“Ddylai ddim bod llais gan y Llywodraeth am bwy sy’n cael eu penodi, ond mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i sicrhau eu bod yn ariannu sefydliadau sy’n cymryd y Gymraeg o ddifrif.”
Ymateb Cyngor y Celfyddydau
Wrth drafod y swydd newydd, dywedodd Sian Tomos, darpar Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros yr iaith Gymraeg i ddod i weithio gyda ni.
“Rydan ni’n hynod freintiedig fel cwmni i gael cyswllt dyddiol gyda Chymry Cymraeg creadigol a thalentog ac rydym yn hollol hyderus y bydd llawer o’r rhain yn ymgeisio am y swydd hon.
“Mae rhai o’n cydweithwyr ar ddechrau eu taith yn dysgu’r iaith, eraill yn siaradwyr iaith gyntaf rhugl; bydd cyfle iddynt oll ymgeisio am y swydd yma.
“Ac fe gawn nhw gyfle anhygoel i ddatblygu’r celfyddydau, yn llenyddiaeth, cerddoriaeth, theatr a chelf – yn y ddwy iaith – ond bydd pwyslais o’r newydd ar rhoi hwb anferth i’r iaith Gymraeg.
“Bydd y Cyfarwyddwr newydd hefyd yn gyfrifol am swydd newydd dan y teitl, Ysgogwr y Gymraeg.
“Mae hon yn swydd sydd wedi’i chreu i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y celfyddydau a byddwn yn disgwyl i unrhyw un sydd am fod yn un o’n cyfarwyddwyr allu esbonio sut y byddan nhw’n blaenoriaethu’r Gymraeg, datblygu talent a gweithio gyda’r sector celfyddydol i gyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.”