Mae honiadau wedi eu gwneud bod Ryan Giggs wedi cicio ei gyn-gariad yn ei chefn a’i thaflu allan o stafell gwely gwesty yn noeth.

Dyna ddywedwyd yn Llys y Goron Manceinion wrth i’r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol wynebu cyhuddiadau o niweidio a rheoli ei gyn-gariad.

Mae’r honiadau yn ymwneud â cham-drin Kate Greville rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020.

Fe blediodd Ryan Giggs yn ddieuog i’r holl gyhuddiadau sy’n cynnwys cyhuddiad o ymosod ar, ac achosi niwed corfforol i’w gyn-gariad yn ei gartref yn Worsley, ger Manceinion, ar 1 Tachwedd y llynedd.

Hefyd mae Ryan Giggs yn gwadu iddo ymosod ar chwaer ei gyn-gariad, Emma Greville, yn ystod yr un digwyddiad ar 1 Tachwedd.

Bu i glerc y llys ddarllen rhestr o gyhuddiadau yn honni fod Ryan Giggs wedi rheoli ac ymosod ar ei gyn-gariad, gan gynnwys:

  • bygwth anfon e-byst at ei ffrindiau a’i chyflogwyr yn trafod ei hymddygiad rhywiol;
  • taflu ei heiddo o’r tŷ pan wnaeth hi gwestiynu Giggs am ei berthnasau gyda merched eraill;
  • ei chicio yn ei chefn a’i thaflu allan o stafell wely gwesty’r Staffordd yn Llundain, ac yna taflu ei bag ati pan wnaeth hi gyhuddo Giggs o fflyrtio gyda merched eraill;
  • bod Giggs yn dod i’w chartref, gweithle a champfa heb roi gwybod ymlaen llaw na gofyn am ganiatâd, wedi iddi geisio dod a’r berthynas i ben;
  • bod Giggs yn anfon negeseuon di-alw-amdanynt a ffonio Kate Greville a’i chyfeillion yn gyson, er nad oedden nhw am iddo wneud hynny, pan wnaeth hi geisio rhoi terfyn ar y berthynas.

Hefyd mae honiad fod Ryan Giggs wedi taro Kate Greville yn fwriadol gyda’i ben yn ystod y digwyddiad yn ei gartref yn Worsley.

Sefyll ei brawf yn 2022

Bu i’r gwrandawiad bara am hanner awr heddiw, a daeth i’r fei bod y cyn-gariadon hefyd yn cynnal achos sifil dros pwy sydd biau anifail anwes.

Bydd Ryan Giggs yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron Manceinion ar 24 Ionawr.

Mi fydd yna wrandawiad arall cyn hynny, ar 8 Hydref.

Ac mae Ryan Giggs yn parhau i ffwrdd o’i waith yn Reolwr Cymru.

Fe enillodd 64 o gapiau tros ei wlad ac mae yn un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Prydain erioed, ac yntau wedi ennill Uwchgynghrair Lloegr 13 o weithiau, Cynghrair Pencampwyr Ewrop ddwywaith a Chwpan yr FA bedair gwaith gyda Man U.