Mae swyddogion iechyd y gogledd wedi cydnabod bod mwy o ymwelwyr na’r arfer yn achosi straen ar wasanaethau lleol, ac yn debygol o ledaenu‘r straen Delta o Covid-19 ymhellach.
Mewn diweddariad yn gynharach yr wythnos hon, cyfeiriodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr at arolwg diweddar oedd yn dweud mai gogledd Cymru oedd y cyrchfan mwyaf poblogaidd i ymwelwyr o Brydain yr haf hwn.
Ond mae hynny wedi arwain at alwadau i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus y gogledd yn cael cefnogaeth ddigonol yn dilyn y cynnydd mewn ymwelwyr.
Roedd arolwg barn gan Sykes Holiday Cottages yn dweud bod 62% o Brydeinwyr yn bwriadu cael gwyliau yn y Deyrnas Unedig eleni – 12% yn uwch na 2019 – oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â theithio dramor. Ac roedd yr arolwg yn dangos mai gogledd Cymru yw’r lle mwyaf poblogaidd ar gyfer y gwyliau gartref – ‘staycation‘.
Tra bod y cynnydd hwn yn cael ei groesawu gan sawl busnes sy’n ddibynnol ar dwristiaeth, yn enwedig ar ôl 18 mis caled i’r sector lletygarwch, mae rhai yn ofni y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi’n anodd.
‘Pwysau ychwanegol sylweddol’
Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd y Gogledd, bod y mewnlifiad o bobol ar wyliau yn “debygol iawn” o gynyddu achosion yr amrywiolyn Delta.
“Mae’r wythnos hon yn nodi dechrau tymor gwyliau’r haf a gyda’r newyddion mai gogledd Cymru yw’r cyrchfan gwyliau mwyaf poblogaidd yn y DU, rydyn ni’n disgwyl bydd y nifer o ymwelwyr yn llawer mwy na blynyddoedd arferol,” meddai.
“Mae hyn eisoes yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar ein gwasanaethau ac mae’n debygol iawn o arwain at gynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Delta.”
‘Etholwyr angen sicrwydd’
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, wedi ategu at y sylwadau uchod wrth ysgrifennu llythyr i’r Prif Weinidog yn holi am sicrwydd y bydd cymorth ychwanegol ar gael i feddygon teulu, ysbytai ac asiantaethau eraill fel yr heddlu yn dilyn yr ymchwydd yn y boblogaeth.
“Hoffwn wybod ar fyrder beth yn union mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynllunio ar gyfer dygymod efo’r sefyllfa yma,” meddai’r aelod o Blaid Cymru.
“A oes cynllun argyfwng mewn lle sydd yn tynnu’r holl bartneriaid ynghyd?
“Pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i Feddygon Teulu, Ysbytai, Gwasanaethau Cyhoeddus o bob math, yr Heddlu a’r llu eraill o asiantaethau fydd yn gorfod ymdopi gyda’r pwysau digynsail hyn?
“A pha gefnogaeth ychwanegol (ariannol ac o ran y gweithlu) fydd ar gael iddynt dros yr haf/hydref?
“Mae fy etholwyr angen sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud i’w diogelu rhag drwg-effeithiau’r ymchwydd poblogaeth anferthol sydd yn digwydd yn ein cymunedau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i’r sylwadau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “cynlluniau ar waith” i ymateb i’r pwysau ychwanegol.
“Rydym wedi sicrhau bod mwy o arian ar gael i helpu i reoli gofal brys ac argyfwng ac mae gwasanaeth 111 wedi’i gyflwyno ledled gogledd Cymru i ddarparu cyngor dros y ffôn i bobl ag anghenion gofal nad yw’n argyfwng.
“Er gwaethaf cynnydd mewn achosion coronafeirws yn y gymuned, diolch i lwyddiant y rhaglen frechu, mae llai o salwch difrifol ac ysbytai sydd o dan straen.
“Ond mae angen help pawb arnon ni i ddod â’r firws dan reolaeth ac os oes angen gofal iechyd arnoch, meddyliwch am ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd cywir ar gyfer eich cyflwr.”