Mae’r Aelod Seneddol dros Arfon, Hywel Williams, wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am beidio â chyflwyno cyfraith ar drwyddedau jet-sgis cyn yr haf.

Cyflwynodd Fil Aelod Preifat i San Steffan ym mis Tachwedd 2020 a fyddai wedi gorfodi gyrwyr jet-sgis i gael trwydded, a chosbi’r rheiny oedd yn gyrru heb drwydded.

Roedd y Bil yn ymateb i bryderon yng Ngwynedd a Cheredigion am ddefnydd peryglus ac anghyfrifol o jet-sgis personol, a’r diffyg grym sydd gan awdurdodau lleol wrth reoli’r sefyllfa.

Llwyddodd yr aelod Plaid Cymru i gael cyfarfod â’r Is-ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Trafnidiaeth, Robert Courts, i drafod bwriad y Llywodraeth wrth fynd ymlaen, ac fe gafodd sicrwydd bod cynlluniau ar y gweill.

Er hynny, doedd dim amserlen wedi ei ryddhau ynglŷn â chynnydd y ddeddfwriaeth erbyn Gorffennaf 1 yn ôl Hywel Williams.

‘Mater o ddiogelwch y cyhoedd’

Mae’r AS dros Arfon wedi ymbil ar Lywodraeth Prydain i weithredu ar y mater.

“Yr haf diwethaf, cawsom farwolaethau yn gysylltiedig â jet-sgis ar lannau Gwynedd a bu marwolaethau ac anafiadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni nawr yn dechrau tymor haf arall ac rwy’n ofni bydd y diffyg rheoleiddio yn arwain at ddigwyddiadau tebyg unwaith eto.

“Mae’n hynod siomedig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau i lusgo’u traed ac wedi methu â deddfu mewn pryd ar gyfer tymor yr haf…

“Oherwydd diffyg gweithredu’r llywodraeth, bydd unrhyw un – hyd yn oed plant mor ifanc â 12 oed – yn parhau i allu defnyddio’r peiriannau pwerus hyn trwy gydol yr haf, gan fygwth nofwyr, morwyr, syrffwyr, yn ogystal â bygwth y bywyd gwyllt rydyn ni i gyd yn ei fwynhau ar hyd ein harfordir.

“Rhaid i’r llywodraeth weithredu ar frys i roi diwedd ar y rhyddid i bawb wneud fel y mynnon nhw a chyflwyno deddfwriaeth gadarn i amddiffyn y cyhoedd a bywyd gwyllt.”

‘Rhaid i hyn stopio!’

Roedd y naturiaethwr a chyflwynydd teledu, Iolo Williams, hefyd wedi mynegi dicter dros y diffyg rheolaeth ar Twitter yr wythnos hon.

“Gwelais bump person ar jet-sgi yn mynd yn syth trwy haid o garfilod oddi ar Ynys Seiriol heddiw.

“Wedyn, daeth chwe pherson ar jet-sgi o gyfeiriad Afon Conwy a dychryn popeth yn eu llwybr.

“Mae’n rhaid i hyn stopio!”

Iolo Williams on Twitter: “Watched these 5 jet-skiers go straight through a raft of auks off Puffin Island today. Later, 6 jet-skiers came down the Afon Conwy, scaring everything in their path. This has to stop! @bardseyben @NWPolice https://t.co/H0aObvJ7va” / Twitter