Mae dyn 22 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio William John Bell o Aberteifi.

Bydd Ashley Keegan yn mynd gerbron ynadon Abertawe heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 24).

Mae teulu William John Bell yn cael eu cefnogi gan yr heddlu.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, maen nhw’n “ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned tra bod ymchwiliad wedi’i gynnal”.